Roedd cwyn Mrs A yn gysylltiedig â diffyg mynediad ei mab (âBâ) at therapi lleferydd ac iaith, a gwasanaethau eraill, ers ei atgyfeiriad cyntaf i wasanaeth Therapi Lleferydd ac Iaith Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ym mis Tachwedd 2015. Yn benodol, roedd Mrs A yn cwyno bod y Bwrdd Iechyd wedi methu darparu mynediad priodol iâw map at therapi lleferydd ac iaith er gwaethaf 4 atgyfeiriad gwahanol iâr gwasanaeth Lleferydd ac Iaith. Cwynodd hefyd bod y methiant i gynnal asesiadau Lleferydd ac Iaith priodol yn golygu na allai ei mab gael mynediad at wasanaethau pellach, er enghraifft y TĂŽm Niwroddatblygiadol aâr Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant aâr Glasoed, a fyddai hefyd wedi nodi anhwylder sbectrwm awtistiaeth (âASDâ) ar gam cynharach.
Canfuâr Ombwdsmon bod y Bwrdd Iechyd wedi darparu mynediad priodol at therapi lleferydd ac iaith i B ac er bod rhai diffygion cyfyngedig ym mhroses ryddhau y gwasanaeth Lleferydd ac Iaith, nid oedd y rhain yn effeithioân sylweddol ar ddigonolrwydd darpariaeth B. Canfuâr Ombwdsmon hefyd bod y gwasanaeth Lleferydd ac Iaith wedi ymgysylltuân briodol â gwasanaethau eraill ac nad oedd tystiolaeth i awgrymu bod diagnosis ASD B wediâi oediân ddiangen. O ganlyniad i hyn, ni chadarnhaodd yr Ombwdsmon y cwynion.