Notice: [ Timber ] get_context is deprecated since Timber version 2.0.0! Use context instead. in /var/www/vhosts/psow.spindogs-dev7.co.uk/dev/vendor/timber/timber/src/Helper.php on line 462
Iechyd : Practis Deintyddol yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda – PSOW Cymraeg

Report Date

17/08/2023

Subject

Iechyd

Case Reference Number

202303004

Outcome

Datrys yn gynnar

Cwynodd Ms P nad oedd y Practis wedi ymateb yn ffurfiol i gŵyn a wnaeth ym mis Chwefror 2023.

Canfu’r Ombwdsmon fod y Practis wedi cwrdd â Ms P i drafod ei chwyn ond nad oedd wedi cyhoeddi ymateb ysgrifenedig. Roedd hyn wedi achosi rhwystredigaeth ychwanegol i Ms P.

Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad. Ceisiodd a chafodd gytundeb y Practis i ysgrifennu at Ms P o fewn 2 wythnos i ymddiheuro ac i gyhoeddi ymateb ffurfiol i’r gŵyn.