Notice: [ Timber ] get_context is deprecated since Timber version 2.0.0! Use context instead. in /var/www/vhosts/psow.spindogs-dev7.co.uk/dev/vendor/timber/timber/src/Helper.php on line 462
Iechyd : Practis Meddyg Teulu yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr – PSOW Cymraeg

Report Date

23/06/2023

Subject

Iechyd

Case Reference Number

202301226

Outcome

Datrys yn gynnar

Cwynodd Ms C, Ms N a Ms S eu bod wedi mynegi pryderon i Bractis Meddyg Teulu yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn anffurfiol ym mis Medi 2022, ac er gwaethaf sawl ymgais i gael atebion i’w pryderon, heb ymateb, fe wnaethon nhw gyflwyno cwyn ffurfiol ym mis Chwefror 2023. Roedd y teulu’n dal i aros am ymateb i’r gŵyn.

Roedd yr Ombwdsmon yn bryderus, er bod y Practis yn ymwybodol o’r mater 5 mis cyn y gŵyn ffurfiol, nad oedd y teulu wedi cael ymateb o hyd a bod gweithredoedd y Practis wedi achosi anghyfleustra iddynt. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Practis i, o fewn 4 wythnos, ymddiheuro i Ms C, Ms N, a Ms S am yr oedi cyn ymateb i’w cwyn, i ddarparu esboniad llawn am yr oedi ac i ymateb i’w holl bryderon.