Notice: [ Timber ] get_context is deprecated since Timber version 2.0.0! Use context instead. in /var/www/vhosts/psow.spindogs-dev7.co.uk/dev/vendor/timber/timber/src/Helper.php on line 462
Iechyd: Practis Meddyg Teulu yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr – PSOW Cymraeg

Report Date

10/10/2023

Subject

Iechyd

Case Reference Number

202303507

Outcome

Datrys yn gynnar

Cwynodd Miss R na ddarparodd y Feddygfa ymateb i’w chwyn ynglŷn â’r asesiad gwael o’r anaf ar ei throed a oedd, meddai, wedi oedi ei thriniaeth ac a gafodd effaith andwyol ar ei hadferiad.

Canfu’r Ombwdsmon, er bod y Feddygfa wedi cydnabod y gŵyn, nid oedd wedi darparu ymateb i’r gŵyn. Dywedodd bod hyn wedi achosi rhwystredigaeth ac ansicrwydd i Miss R. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Gofynnodd yr Ombwdsmon a chafodd gytundeb y Feddygfa i ysgrifennu at Miss R gydag ymddiheuriad ac esboniad am yr oedi cyn ymateb i’w chwyn, cynnig i dalu iawndal o £75 a chyhoeddi ymateb i’r gŵyn o fewn pythefnos.