Cwynodd Ms L fod Cartrefi Dinas Casnewydd (ây Gymdeithasâ) wedi methu datrys ei phryderon ynghylch ffin o amgylch ei heiddo sydd wediâi leoli ar ffordd brysur. Cwynodd hefyd fod cyflymder y cerbydau a oedd yn teithio ar y ffordd honno wedi ei gadael yn ofni damwain, ac nad oes ganddi unrhyw warchodaeth pe bai hyn yn digwydd.
Roedd yr Ombwdsmon yn bryderus nad oedd cwyn Ms L wediâi datrys eto, a chysylltwyd ââr Gymdeithas i drafod y mater. Fel dewis arall yn lle ymchwiliad, cytunodd y Gymdeithas y byddaiân ysgrifennu at Ms L o fewn 30 diwrnod gwaith i benderfyniad yr Ombwdsmon i amlinellu dau opsiwn gwahanol sydd ar gael iddi o ran y ffin, na fyddaiân costio dim i Ms L. Cytunodd y Gymdeithas hefyd y byddaiân rhoiâr wybodaeth ddiweddaraf i Ms L ynghylch yr amserlenni aâr camau gweithredu tebygol cyn gynted ag y bo modd.