Cwynodd Mrs X am nad oedd y Cyngor wedi gwneud penderfyniad ar ei chais am orchymyn addasu mapiau diffiniol (âDMMOâ) yn unol â chyfarwyddyd a gyhoeddwyd gan Benderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru (âPEDWâ). Cwynodd hefyd nad oedd y Cyngor wedi ymateb iâw gohebiaeth ato, lleâr oedd wedi mynegi ei phryderon am y sefyllfa.
Canfuâr Ombwdsmon fod y Cyngor wedi methu â chydymffurfio ââr cyfarwyddyd a gyhoeddwyd gan PEDW ac nad oedd wedi cadarnhau i Mrs X pa bryd y byddai ei chais yn cael ei brosesu. Canfu hefyd nad oedd y Cyngor wedi ymateb i ddau e-bost a anfonwyd ato gan Mrs X, lleâr oedd wedi mynegi ei phryderon am y sefyllfa.
Cysylltodd yr Ombwdsmon ââr Cyngor ac i ddatrys cwyn Mrs X, cytunodd i wneud y canlynol:
O fewn 10 niwrnod gwaith:
⢠Ymddiheuroân ysgrifenedig iddi am y methiant i wneud penderfyniad ar ei chais am DMMO yn unol ââr amserlen a oedd wediâi phennu gan PEDW.
⢠Ymddiheuroân ysgrifenedig iddi ac egluro ei fethiant i ymateb iâr ddau e-bost a anfonwyd ganddi i fynegi ei phryderon
⢠Rhoi cadarnhad ysgrifenedig iddi y bydd ei chais am DMMO yn cael ei gyflwyno, ac yn cael ei benderfynu gan y Pwyllgor Hawliau Tramwy Cyhoeddus sydd iâw gynnal ym mis Ionawr 2023. Os na allaiâr Pwyllgor gyflwynoâi benderfyniad ar lafar, bydd y Cyngor yn ei hysbysu oâr penderfyniad o fewn 5 niwrnod gwaith i ddyddiad y cyfarfod.