Cwynodd Mrs B, ar ran ei brawd Mr A, ynglšn ââr oedi afresymol gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan (ây Bwrdd Iechydâ) cyn trin Mr A am ganser y colon aâr rhefr. Dywedodd Mrs B bod y Bwrdd Iechyd wedi methu hysbysu Mr A bod ei lawdriniaeth a gynlluniwyd wediâi chanslo ac ni wnaethant ail-drefnuâr llawdriniaeth nes iddynt gael eu hysgogi i wneud hynny drwy alwadau ffĂ´n a chwyn gan y teulu. Dywedodd Mrs B bod y Bwrdd Iechyd hefyd wedi methu cynnal llawdriniaeth Mr A o fewn amserlen briodol, gan achosi iâr clefyd ddatblygu a chanlyniad llai sicr.
Canfuâr Ombwdsmon bod y Bwrdd Iechyd wedi methu trefnu llawdriniaeth aâu bod ond wedi gwneud hynny 5 wythnos ar Ă´l anogaeth gan Mr A. Arweiniodd hyn at oedi y gellid bod wediâi osgoi ac nid oedd hyn yn cyflawniâr canllawiau Llwybr Cenedlaethol ar gyfer canser y colon aâr rhefr. Fe achosodd hyn drafferth a gofid sylweddol i Mr A. Daeth yr Ombwdsmon iâr casgliad nad oedd y gofal a dderbyniodd Mr A, yn nhermau ail-drefnu ei lawdriniaeth, wedi cyflawni safon briodol a chadarnhaodd yr agweddau hynny oâr gĹľyn. Ni chadarnhaodd yr Ombwdsmon y gĹľyn bod yr oedi wedi achosi prognosis llai sicr gan fod tystiolaeth o hyn yn aneglur.
Argymhellodd yr Ombwdsmon y dylaiâr Bwrdd Iechyd ymddiheuro i Mr A ac i Mrs B am y methiannau a nodwyd wrth drefnuâr llawdriniaeth aâr oedi a achoswyd. Argymhellodd hefyd y dylaiâr Bwrdd Iechyd gwblhau archwiliad o broses a rheolaethau presennol trefnu llawdriniaethau’r colon aâr rhefr.
Os na chanfyddir ei bod yn gadarn, dylid rhoi cynllun ar waith i gau unrhyw fylchau a nodwyd. Cytunodd y Bwrdd Iechyd i roiâr argymhellion hyn ar waith.