Notice: [ Timber ] get_context is deprecated since Timber version 2.0.0! Use context instead. in /var/www/vhosts/psow.spindogs-dev7.co.uk/dev/vendor/timber/timber/src/Helper.php on line 462
Nosocomiaidd : Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro – PSOW Cymraeg

Report Date

01/12/2022

Subject

Nosocomiaidd

Case Reference Number

202203473

Outcome

Datrys yn gynnar

Cwynodd Ms A am driniaeth ei diweddar chwaer, Mrs B, a oedd wedi dal Covid-19 ar ôl cael ei derbyn i ysbyty yn y Bwrdd Iechyd am gyflwr nad oedd yn gysylltiedig ag ef ac a fu farw yn drist iawn. Roedd Ms A wedi cael ymateb cychwynnol i’r gŵyn o dan y broses Gweithio i Wella, ond gofynnodd gwestiynau pellach i’r Bwrdd Iechyd ar ôl ei ddarllen.

Cysylltodd yr Ombwdsmon â’r Bwrdd Iechyd a chanfod ei fod yn paratoi ymateb Gweithio i Wella pellach i gwestiynau Ms A. Cadarnhaodd y Bwrdd Iechyd fod ei banel craffu ar Covid-19 hefyd wedi ystyried ar wahân yr amgylchiadau lle’r oedd Mrs B wedi dal Covid-19, yn unol â Rhaglen Nosocomiaidd Genedlaethol COVID-19.

Cytunodd y Bwrdd Iechyd i ddarparu canlyniadau’r gwaith o graffu ar achos Mrs B yn sgil Covid-19, a rhoi ymateb Gweithio i Wella arall yn rhoi sylw i gwestiynau pellach Ms A, i Ms A o fewn y mis nesaf.