Cwynodd Mr X fod Cyngor Cymuned Llansteffan a Llanybri (ây Cyngor Cymunedâ) yn methu yn ei ddyletswydd i gynnal y gyfraith drwy beidio â defnyddioâr PĹľer Statudol sydd ar gael iddo i ddiogeluâr tir y maent wediâi gofrestru fel Lawnt Pentref. Cwynodd Mr X hefyd fod y Cyngor Cymuned wedi cael ei ddal yn Ă´l wrth ddelio ââi gĹľyn aâi fod wedi methu â dilyn y gweithdrefnau aâr polisĂŻau a nodir yn ei Reoliadau Ariannol aâi reolau Sefydlog.
Cysylltodd yr Ombwdsmon ââr Cyngor Cymuned a chytunodd i wneud y canlynol:
a) Rhoi i Mr X ei benderfyniad, yn ysgrifenedig, nad ywân gwneud penderfyniad ar Lawnt y Pentref hyd nes y bydd wedi derbyn gohebiaeth gan y Cyngor Sir ynghylch y cyngor cyfreithiol y mae wediâi gael. Cytunodd y Cyngor Cymuned hefyd i gysylltuân rheolaidd ââr Cyngor Sir, bob mis o leiaf, i fynd ar drywydd y mater hwn a chael y wybodaeth ddiweddaraf.
b) Bydd y Cyngor Cymuned yn rhoiâr wybodaeth ddiweddaraf i Mr X, bob mis, am y cynnydd o ran cael y wybodaeth berthnasol gan y Cyngor Sir.
c) Bydd y Cyngor Cymuned, ar Ă´l derbyn y ohebiaeth gan y Cyngor Sir, yn gwneud ei benderfyniad ac yn cyfleu hyn yn ysgrifenedig i Mr X. Gwneir hyn o fewn 2 fis iâw dderbyn.