Notice: [ Timber ] get_context is deprecated since Timber version 2.0.0! Use context instead. in /var/www/vhosts/psow.spindogs-dev7.co.uk/dev/vendor/timber/timber/src/Helper.php on line 462
Rheoli Coed /GCC/ Gwrych uchel: Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf – PSOW Cymraeg

Report Date

02/10/2023

Subject

Rheoli Coed /GCC/ Gwrych uchel

Case Reference Number

202303834

Outcome

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr B nad oedd Cyngor Sir Rhondda Cynon Taf wedi ymateb i’w gŵyn ynglŷn ag arwyneb anwastad a thoredig ar hyd un o lwybrau beicio a cherdded y Cyngor.

Canfu’r Ombwdsmon, er nad oedd y Cyngor yn gyfrifol am y rhan o’r llwybr y gwnaed cwyn yn ei chylch, nid oedd wedi hysbysu Mr B am hyn, nac eu bod wedi cyfeirio’r mater i’r corff cyfrifol.

Cysylltodd yr Ombwdsmon â’r Cyngor ac er mwyn datrys cwyn Mr B, cytunodd i ysgrifennu llythyr ymddiheuro o fewn 20 diwrnod gwaith am beidio â’i hysbysu. Roedd yr Ombwdsmon o’r farn bod hyn yn ddatrysiad priodol ac ni chynhaliodd ymchwiliad i’r mater.