Notice: [ Timber ] get_context is deprecated since Timber version 2.0.0! Use context instead. in /var/www/vhosts/psow.spindogs-dev7.co.uk/dev/vendor/timber/timber/src/Helper.php on line 462
Tai : Cyngor Sir Penfro – PSOW Cymraeg

Report Date

14/08/2023

Subject

Tai

Case Reference Number

202302920

Outcome

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr A fod Cyngor Sir Penfro wedi methu ymateb i’w gŵyn am broblem tamprwydd parhaus yn ei eiddo.

Canfu’r Ombwdsmon fod y Cyngor wedi cofnodi cŵyn yn y lle cyntaf, ond nad oedd wedi rhoi ymateb o sylwedd i gŵyn Mr A. Roedd wedi hysbysu Mr A yn ddiweddarach nad oedd modd ymdrin â’i bryderon o dan ei drefn gwyno am ei fod yn fater yswiriant. Fodd bynnag, bu oedi cyn i’r Cyngor roi gwybod i Mr A am hyn. At hynny, canfu’r Ombwdsmon nad oedd y Cyngor wedi ymddiheuro i Mr A am yr oedi nac am gofnodi ei bryderon yn anghywir fel cwyn. Dywedodd fod hyn wedi achosi rhwystredigaeth ac ansicrwydd i Mr A. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor i ysgrifennu at Mr A i ymddiheuro a rhoi’r esboniad angenrheidiol am yr esgeulustod ac i ddarparu diweddariad ynghylch ei hawliad yswiriant o fewn 2 wythnos.