Notice: [ Timber ] get_context is deprecated since Timber version 2.0.0! Use context instead. in /var/www/vhosts/psow.spindogs-dev7.co.uk/dev/vendor/timber/timber/src/Helper.php on line 462
Tai : Merthyr Valleys Homes – PSOW Cymraeg

Report Date

20/06/2022

Subject

Tai

Case Reference Number

202200257

Outcome

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr X, un o denantiaid Cartrefi Cymoedd Merthyr (“y Gymdeithas Dai”) am ymddygiad gwrthgymdeithasol ac aflonyddu parhaus gan gymdogion a materion yn ymwneud â llifogydd o ddraeniau. Cwynodd Mr X fod y Gymdeithas Dai wedi ymateb i’w gŵyn a oedd wedi’i chyfeirio gan yr Ombwdsmon ym mis Ionawr 2022.

Canfu’r Ombwdsmon nad oedd y Gymdeithas Dai wedi darparu ymateb ffurfiol i gŵyn Mr X a oedd wedi’i chyfeirio, ond ei bod wedi ymateb i gŵyn ddilynol a wnaed gan Mr X am faterion tebyg. Roedd yn ymddangos bod yr ohebiaeth yn mynd i’r afael â’r gŵyn ac yn egluro’r camau a gymerwyd. Roedd y Gymdeithas Dai wedi rhoi cymorth i Mr X ddatrys y problemau gyda’r draeniau llifogydd.

Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Gymdeithas Dai i ddarparu ymddiheuriad ysgrifenedig i Mr X am fethu ag ymateb i’w gŵyn (a gafodd ei chyfeirio’n flaenorol gan yr Ombwdsmon ar 24 Ionawr 2022), o fewn 20 diwrnod gwaith. Roedd yr Ombwdsmon o’r farn bod y cam gweithredu hwn, ynghyd â chamau a oedd wedi’u cymryd yn barod, yn rhesymol i setlo cwyn Mr X.