Cwynodd Ms A am y driniaeth aâr gofal a gafodd ei diweddar ewythr, Mr B, yn ystod ei arhosiad ar Ward Dan Danino (ây Wardâ) yn Ysbyty Treforys (âyr Ysbyty Cyntafâ) rhwng 6 Mawrth a 3 Gorffennaf 2019. Yn benodol, cwynodd fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe (ây Bwrdd Iechydâ) wedi methu ag asesuân ddigonol alluedd meddyliol Mr B i wneud penderfyniadau am ei ofal ei hun, aâi ddiogelu fel oedolyn agored i niwed yn ystod ei arhosiad ar y Ward, er mwyn darparu gofal a thriniaeth resymol i Mr B mewn perthynas â llid yr isgroen yn ei goesau, a chyfathrebuân briodol â theulu Mr B mewn perthynas ââu pryderon am ei driniaeth aâi les.
Cafodd yr Ombwdsmon fod ystyriaeth ddyledus wediâi rhoi i alluedd meddyliol Mr B aâr angen iâw ddiogelu yn ystod ei arhosiad yn yr ysbyty, a bod cynllun gofal priodol wediâi wneud i drin llid yr isgroen yng nghoesau Mr B, ond ei fod wedi anghydffurfio gan mwyaf ââi driniaeth a bod hyn wedi ei atal rhag gwella. Felly, ni chadarnhawyd y cwynion hyn. Er hynny, collwyd cyfleoedd i gynnwys y teulu wrth helpu Mr B ââi driniaeth a byddai wedi bod yn bosibl cyfathrebu mewn ffordd fwy rhagweithiol. Roedd y gofid a achoswyd gan y methiant hwn wedi gwneud cam â Ms A a chadarnhawyd yr agwedd hon ar y gĹľyn.
Argymhellodd yr Ombwdsmon fod y Bwrdd Iechyd, o fewn 1 mis ar Ă´l gwneud yr adroddiad, yn ymddiheuro i Ms A am y methiannau a nodwyd ac yn talu iawndal o ÂŁ250 i gydnabod yr amser aâr drafferth o ddod ââi chwyn at yr Ombwdsmon. Roedd hefyd yn argymell bod yr adroddiad yn cael ei rannu ââr clinigwyr a oedd yn gysylltiedig er mwyn myfyrio arnoân feirniadol a dysgu gwersi mewn perthynas â chyfathrebu â theuluoedd cleifion.