Cwynodd Ms A am y gofal a dderbyniodd ei mab, B, pan oedd yn glaf ar y Ward Newydd-anedig yn Ysbyty Singleton. Ystyriodd yr ymchwiliad a oedd caniwla prifwythiennol / llinell brifwythiennol ymylol (âllinell brifwythiennolâ) B wedi cael ei osod, ei gynnal aâi fonitroân briodol, ac a oedd y weithdrefn samplo brifwythiennol (y broses o gymryd sampl gwaed) aâr weithdrefn fflysho (fflysho hylif trwytho i atal y llinell brifwythiennol rhag ceulo) hefyd wedi eu cyflawni iâr safon glinigol briodol. Yn ogystal, a allai achos clinigol yr anaf isgemig aciwt (anaf wediâi achosi gan leihad yn llif y gwaed) fod wedi cael ei gadarnhauân bendant. Yn olaf, a oedd unrhyw wallau ffeithiol yn yr Adroddiad Digwyddiad Difrifol (âSIRâ – ymchwiliad a wneir drwy broses y Bwrdd Iechyd o ymchwilio i ddigwyddiadau difrifol).
Casglodd yr ymchwiliad fod y llinell brifwythiennol wediâi gosod, cynnal aâi monitro a bod y weithdrefn fflysho wediâi chyflawni i safon glinigol briodol. Nid oedd yn bosib cadarnhauân bendant beth achosodd anaf isgemig aciwt B, ond roedd y ddau bosibilrwydd a gynigiwyd gan y Bwrdd Iechyd yn rhesymol. Roedd un gwall ffeithiol yn yr adroddiad SIR. Disgrifiwyd bod B wedi cael ei ryddhauân dilyn adferiad llawn oâi fraich dde uchaf ond bod ganddo smotiau piws / duon dros ewinedd trydydd a phedwerydd bys ei law a disgrifiodd Ms A fod B, ddwy flynedd yn ddiweddarach, yn dal i fod heb ewinedd ar y bysedd hyn aâu bod fel teuluân wynebu ansicrwydd ynglšn ââi ddyfodol. Roedd y Bwrdd Iechyd eisoes wedi ymddiheuro am y gwall ac wedi newid yr adroddiad SIR. Ni argymhellwyd camau cywiro pellach.