Roedd cwyn Mr A yn ymwneud ââi ofal aâi reolaeth yn Ysbyty Treforys (âyr Ysbytyâ). Cwynodd fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe (ây Bwrdd Iechydâ) wedi methu â rhoi diagnosis cywir o lid celloedd mawr y rhydwelĂŻau (âGCAâ â llid yn leinin y rhydwelĂŻau, yn enwedig yn yr arlais) a darparu triniaeth amserol yn dilyn ei ymweliad ââr Adran Achosion Brys (âEDâ) ar 21 Chwefror 2021. Methodd y Bwrdd Iechyd hefyd â rhoi gwybod i Mr A nad oedd yn cynnig biopsi rhydwelĂŻau’r arlais (triniaeth i dynnu rhan oâr rhydweli ar gyfer profion) i ddiystyru GCA er y dywedwyd wrtho yn yr Adran Achosion Brys y byddaiân cael ei wneud ar frys. Dywedodd Mr A na wnaeth y Bwrdd Iechyd fonitro ei farciwr haint gwaed a rheoli ei feddyginiaeth (prednisolone) yn unol â chanllawiau cenedlaethol ac na chafodd ei feddyg teulu wybod am ei gynllun rheoli. Yn olaf, dywedodd Mr A nad oedd y Bwrdd Iechyd wedi darparu ymateb cadarn iâr gĹľyn.
Daeth ymchwiliad yr Ombwdsmon iâr casgliad bod Mr A wedi cael diagnosis o GCA pan aeth iâr Adran Achosion Brys ym mis Chwefror. Dechreuwyd y feddyginiaeth a chafodd ei fonitro yn unol ââr canllawiau cenedlaethol. Ar Ă´l ystyried tystiolaeth, ni chanfuâr Ombwdsmon unrhyw reswm dros gredu na chafodd meddyg teulu Mr A wybod am ei reolaeth. Croesawodd yr Ombwdsmon y ffaith bod y Bwrdd Iechyd wedi cyflwyno system TG newydd a fyddaiân galluogi mynediad di-dor at gofnodion cleifion. Am y rhesymau hyn, ni chadarnhaodd yr Ombwdsmon yr agwedd hon ar gwynion Mr A.
Roedd yr Ombwdsmon yn fodlon ââr esboniad a roddwyd gan y Bwrdd Iechyd ynghylch sut yr oedd amheuon o GCA yn cael eu rheoli. Fodd bynnag, canfuâr ymchwiliad ddiffygion o ran cyfathrebu â Mr A ynghylch y ffaith nad oedd biopsĂŻau oâr fath ar gael, gan ei fod wedi cael gwybodaeth groes y byddai angen biopsi arno ar frys. Daeth yr Ombwdsmon iâr casgliad bod methiant y Bwrdd Iechyd i roiâr wybodaeth ddiweddaraf i Mr A ynghylch biopsĂŻau yn anghyfiawnder a achoswyd iddo ef aâi deulu gan y gallaiâr straen aâr pryder ychwanegol diangen hwn fod wedi cael ei osgoi. Roedd y Bwrdd Iechyd wedi nodi diffygion yn y ffordd yr ymdriniodd â chwyn Mr A ac roedd mesurau wediâu rhoi ar waith i fynd iâr afael ââr rhain. Roedd y Bwrdd Iechyd, fel iawndal i Mr A am yr anhwylustod a achoswyd i Mr A oherwydd y ffordd wael yr ymdriniodd ââi gĹľyn, wedi cynnig taliad ex-gratia o ÂŁ500 i Mr A. Roedd yr Ombwdsmon yn siomedig nad oedd ymchwiliad y Bwrdd Iechyd aâr ymateb dilynol iâr gĹľyn yn ddigon cadarn na thryloyw. Gan fod hyn yn ychwanegu at yr anhwylustod, y trallod aâr straen ychwanegol a achoswyd i Mr A, cafodd yr agwedd hon ar gwynion Mr A eu cadarnhau.
Argymhellodd yr Ombwdsmon y dylaiâr Bwrdd Iechyd ymddiheuro i Mr A am y methiannau a nodwyd gan yr ymchwiliad, a chynigiodd wneud taliad o ÂŁ500 iddo i gydnabod yr anhwylustod a achoswyd iddo o ganlyniad iâr ffordd wael yr ymdriniodd ââr gĹľyn. Gofynnwyd iâr Bwrdd Iechyd rannu, mewn fforwm clinigol priodol, y pwyntiau dysgu oâr achos hwn i godi ymwybyddiaeth o gymhlethdodau GCA syân perygluâr golwg, a phwysigrwydd ymyriadau amserol yn unol â chanllawiau cenedlaethol, ac i archwilioâr posibilrwydd o ddatblygu gwasanaeth biopsi rhydwelĂŻau dros dro ar Ă´l i gapasitiâr theatr ddod i lefelau normal yn dilyn pandemig COVID-19.