Bu iâr Ombwdsmon ymchwilio i gĹľyn Mr L bod Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (ây Bwrdd Iechyd Cyntafâ) a Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe (âyr Ail Fwrdd Iechydâ) wedi methu monitro problemau coluddyn ei ddiweddar wraig, Mrs L, yn briodol; ymchwilioân llawn a thrin achos ei marcwyr haint uwch yn brydlon; a’i chyfeirio am sgan arall yn brydlon ac yn briodol pan oedd ei symptomau’n gwaethygu. Bu’r ymchwiliad hefyd yn ystyried a wnaeth y Bwrdd Iechyd Cyntaf fonitro caniwla rhydwelĂŻol Mrs L (tiwb tenau syân cael ei osod yn y rhydweli er mwyn gallu mesur pwysedd gwaed yn barhaus) yn briodol a chymryd camau prydlon i fynd iâr afael ag isgema (cyfynguâr cyflenwad gwaed iâr meinwe) pan ddatblygodd yn ystod ei harhosiad olaf yn yr ysbyty.
Canfuâr Ombwdsmon bod ymchwiliad priodol wediâi gynnal i broblemau coluddyn Mrs L aâi bod wedi derbyn triniaeth briodol ac, yn yr amgylchiadau, nid oedd angen monitro dilynol ar Ă´l iddi gael ei rhyddhauân wreiddiol oâr ysbyty. Roedd sawl rheswm posibl pam fod marcwyr haint Mrs L yn uwch, ac ni nododd yr Ombwdsmon unrhyw fethiannau gan y Bwrdd Iechyd Cyntaf naâr Ail Fwrdd Iechyd o ran ymchwilio a thrin yr achos. Canfu hefyd, pan waethygodd symptomau Mrs L ei bod wediâi chyfeirioân brydlon a phriodol i gael sgan. Ni chadarnhaodd yr Ombwdsmon yr agweddau hyn oâr gĹľyn.
Canfuâr Ombwdsmon y buân angenrheidiol gosod caniwla rhydwelĂŻol ar gyfer Mrs L pan oedd yn cael llawdriniaeth fawr, a phan dynnwyd sylwâr staff meddygol at law isgemig Mrs L, cymerwyd camau priodol. Fodd bynnag, nid oedd gwaith monitroâr Bwrdd Iechyd Cyntaf oâr caniwla rhydwelĂŻol wedi cyflawniâr gofynion disgwyliedig. Er na allaiâr Ombwdsmon gadarnhau gydag unrhyw sicrwydd y byddai cyflwr llaw isgemig Mrs L wedi dod iâr amlwg yn gynharach pe byddai wediâi monitroân briodol, maeân bosibl y byddai wedi dod iâr amlwg yn gynharach. Roedd yr Ombwdsmon yn credu ei bod yn debygol, yn Ă´l pob tebyg, mai Mr L a dynnodd sylwâr staff nyrsio at hyn. Er nad oedd yr Ombwdsmon oâr farn bod y diffygion monitro wedi cael effaith andwyol ar y canlyniad, roedd oâr farn ei bod yn debygol bod hyn wedi creu gofid a phryder i Mr a Mrs L. I’r graddau hynny cadarnhaodd yr Ombwdsmon y gĹľyn.
Argymhellodd yr Ombwdsmon iâr Bwrdd Iechyd Cyntaf ymddiheuro i Mr L am y methiannau a nodwyd. Hefyd, argymhellodd y dylaiâr Bwrdd Iechyd Cyntaf gynnal archwiliad oâr broses o reoli caniwla rhydwelĂŻol er mwyn sicrhau bod y staff nyrsio yn yr Uned Therapi Dwys yn adolygu canwlâu rhydwelĂŻol ar adegau priodol aâu cofnodiân gywir, a darparu tystiolaeth eu bod wedi gwneud hynny.