Cwynodd Ms A fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg (ây Bwrdd Iechydâ) wedi methu ag ymchwilio ac ymateb i bob agwedd ar ei phryderon am y gofal aâr driniaeth a dderbyniodd ei mam, a bod yr ymateb iâw chĹľyn yn cynnwys gwallau. Dywedodd Ms A, yn groes i ymateb y Bwrdd Iechyd iâw chĹľyn, nad oedd wedi cael cyfle i gadarnhauâr rhestr o gwestiynau a luniwyd gan y Bwrdd Iechyd cyn iddynt gael eu cyflwyno ar gyfer ymchwiliad. Roedd Ms A yn anhapus â rhai oâr cwestiynau yr ymchwiliwyd iddynt oherwydd eu bod yn wahanol iâw chĹľyn wreiddiol.
Penderfynodd yr Ombwdsmon, er bod y Bwrdd Iechyd wedi dweud bod y cwestiynau wedi eu cytunoân llafar â Ms A, heb i gopi ysgrifenedig oâr cwestiynau fod wediâi roi iddi, nad oedd tystiolaeth bendant ei bod wedi cytuno iâr cwestiynau terfynol a gyflwynwyd iâw hymchwilio.
Penderfynodd yr Ombwdsmon ofyn iâr Bwrdd Iechyd a gytunodd i ymddiheuro wrth Ms A am beidio â rhoi cyfle iddi gadarnhauâr cwestiynau terfynol yn ysgrifenedig, atgoffaâr staff perthnasol o bwysigrwydd cadarnhauâr cwyn / cwestiynauân ysgrifenedig gydaâr sawl syân cwyno cyn eu cyflwyno i gael eu hymchwilio, a rhoi cyfle i Ms A gadarnhauân ysgrifenedig y pryderon sydd heb gael sylw o fewn 20 diwrnod gwaith. Cytunodd y Bwrdd Iechyd i roi ymateb cwyn iâr pryderon y sefydlwyd na chawsant sylw o fewn tri mis.