Cwynodd Mr A am y gofal a roddwyd iâw ddiweddar dad, Mr B, gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg. Cwynodd nad oedd y Bwrdd Iechyd wedi trin Mr B yn briodol pan aeth i Adran Achosion Brys Ysbyty Brenhinol Morgannwg, gyda strĂ´c posib (cyflwr difrifol sy’n peryglu bywydau sydd fel arfer yn digwydd pan fydd y cyflenwad gwaed i ran o’r ymennydd yn cael ei rwystro), ar 2 achlysur gwahanol. Dywedodd na roddwyd aspirin i Mr B ac na chwblhawyd sgan tomograffeg gyfrifiadurol (âCTâ) (maeân defnyddio pelydrau-X a chyfrifiadur i gynhyrchu delweddau manwl o du mewn y corff) oâi ben ar yr achlysur cyntaf, ac na chwblhawyd sgan o’r fath o fewn cyfnod rhesymol o amser, na rhoi aspirin i Mr B, ar yr ail achlysur. Cwynodd nad oedd y Bwrdd Iechyd wedi monitro faint o fwyd a diod roedd Mr B wediâi gael, na faint o ddĹľr roedd wediâi basio ar Ă´l ei dderbyn i Ysbytyâr Tywysog Siarl. Cwynodd nad oedd y Bwrdd Iechyd wedi goruchwylio Mr B yn briodol yn union cyn i Mr B ddisgyn. Cwynodd hefyd nad oedd y Bwrdd Iechyd wedi cwblhau arsylwi Mr B (mesur arwyddion hanfodol unigolyn fel tymheredd), yn Ă´l yr angen.
Canfuâr Ombwdsmon fod sgan CT iâr pen a phresgripsiwn am aspirin heb eu nodiân glinigol pan aeth Mr B iâr Adran Achosion Brys y tro cyntaf a bod y Bwrdd Iechyd wediâi drin yn briodol. Ni chadarnhaodd yr elfen hon o gĹľyn Mr A. Canfu nad oedd y Bwrdd Iechyd wedi trin Mr B yn briodol pan aeth iâr Adran Achosion Brys yr ail waith gan nad oedd wedi ystyried y posibilrwydd ei fod wedi cael pyliau o isgemia dros dro (âstrĂ´cs bach a achosir gan amhariad dros dro yng nghyflenwad gwaed yr ymennydd), wediâi ryddhauân rhy fuan ac heb ragnodi cyffuriau, sy’n gwneud ei waed yn llai tebygol o geulo. Cadarnhaodd yr elfen hon o gĹľyn Mr A. Canfu fod y Bwrdd Iechyd wedi monitroân briodol faint o fwyd oedd Mr B wediâi gael. Nododd na fuân bosibl iâr Bwrdd Iechyd fesur yn fanwl faint o ddĹľr roedd Mr B wediâi basio oherwydd anymataliaeth Mr B. Nododd ddiffyg o ran monitro faint o hylif roedd wediâi gael ond ni allai gysylltuâr methiant hwnnwân glir gydag anghyfiawnder i naill ai Mr B neu Mr A. Ni chadarnhaodd yr elfen hon o gĹľyn Mr A. Canfu fod y Bwrdd Iechyd heb oruchwylio Mr B yn briodol yn union cyn iddo ddisgyn a chadarnhaodd yr elfen hon o gĹľyn Mr A. Canfu hefyd nad oedd y Bwrdd Iechyd wedi cwblhau arsylwi Mr B yn Ă´l yr angen a chadarnhaodd yr elfen hon o gĹľyn Mr A. O ran trallod ac ansicrwydd, ystyriodd fod y methiannau a nodwyd wedi achosi anghyfiawnder i Mr A. Daeth iâr casgliad fod y Bwrdd Iechyd wedi methu â rhoi sylw dyledus iâr amddiffyniad a roddwyd i Mr B, fel person syân byw gyda dementia, yn Ă´l Deddf Cydraddoldeb 2010.
Argymhellodd yr Ombwdsmon y dylaiâr Bwrdd Iechyd ymddiheuro i Mr A a rhoi ÂŁ1,000 iddo i gydnabod y trallod a’r ansicrwydd sylweddol a achoswyd gan y methiannau a nodwyd. Gofynnodd i’r Bwrdd Iechyd adolygu gofal Mr B ac i drafod y methiannau diagnostig a nodwyd gyda staff clinigol perthnasol. Argymhellodd y dylai gael cytundeb ysgrifenedig 2 Feddyg i drafod gofal Mr B gydaâu Harfarnwyr. Gofynnodd hefyd iddo ddarparu hyfforddiant, syân ymwneud â gofal cleifion â nam gwybyddol, i holl staff nyrsio perthnasol aâi Arweinydd Prosiect ar gyfer Dementia. Cytunodd y Bwrdd Iechyd i weithreduâr argymhellion hyn.