Cwynodd Ms A am y gofal a dderbyniodd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg. Dywedodd fod y Bwrdd Iechyd wedi gadael canwla (tiwb tenau sy’n cael ei roi i wythĂŻen i alluogi hylif a meddyginiaeth i fynd i mewn i’r llif gwaed yn uniongyrchol) yn ei braich chwith yn hirach nag oedd angen. Dywedodd ei fod wedi methu â thynnuâr caniwla yn gyfan gwbl. Dywedodd hefyd ei fod wedi cymryd gormod o amser i fynd i’r afael â’i phryderon am y boen yn ei braich chwith ar Ă´l tynnuâr caniwla.
Canfuâr Ombwdsmon fod y Bwrdd Iechyd wedi gadael darn o ganwla ym mraich chwith Ms A am sawl diwrnod er gwaethaf safonau clinigol perthnasol (ây Safonauâ) a phryder Ms A ynglšn ââi chanwla. Canfu hefyd fod y Bwrdd Iechyd wedi methu â chwblhau dogfennau a oedd yn ymwneud â chanwla Ms A yn iawn. Nododd fod gweithiwr y Bwrdd Iechyd wedi nodi bod Ms A wedi gorfod cael llawdriniaeth bellach oherwydd y methiannau a oedd yn gysylltiedig ââr ffordd y gwnaeth y Bwrdd Iechyd reoli ei chanwla. Roedd hefyd yn bryderus nad oedd y Bwrdd Iechyd wedi ystyried rhwymedigaeth gymhwyso (niwed a achosir gan, neu mewn cysylltiad ââr gofal a ddarperir) yn ddigonol pan ymchwiliodd i bryderon Ms A ynglšn ââi chanwla. Roedd oâ farn fod Ms A wedi dioddef anghyfiawnder, o ran poen, trallod ac anghyfleustra, oherwydd y methiannau a nodwyd.
Penderfynodd yr Ombwdsmon y byddaiân briodol ceisio setlo cwyn Ms A. Cytunodd y Bwrdd Iechyd i ysgrifennu at Ms A i ymddiheuro am y ffordd annigonol y deliodd ââr gĹľyn ac i gadarnhau y byddaiân ystyried ei phryderon, ynglšn ââi gofal yn ymwneud ââr canwla, mewn ffordd sy’n debyg i’r trefniadau unioni a amlinellwyd yn y rheoliadau perthnasol wrth ymdrin â chwynion. Cytunodd hefyd i ystyried pryderon Ms A yn y ffordd honno ac i rannuâr gwersi a ddysgwyd yn sgil y canwla gydaâr holl staff perthnasol ac iâw hatgoffa oâr Safonau. Ystyriodd yr Ombwdsmon fod y camau y cytunodd y Bwrdd Iechyd iâw cymryd yn rhesymol. Felly, ystyriodd fod cwyn Ms A wediâi setlo.