Cwynodd Mrs A ar ran ei gĹľr Mr B, am ei driniaeth aâi ofal yn Ysbyty Tywysoges Cymru (âyr Ysbytyâ) ar Ă´l cael ei dderbyn i gael triniaeth ar gyfer torri asgwrn ei gefn. Yn benodol, dywedodd Mrs A fod y Bwrdd Iechyd wedi rhoi presgripsiwn am forffin (poenladdwr opiad) yn amhriodol ar gyfer Mr B ar Ă´l cael gwybod ei fod yn sensitif i hynny a bod rheoli ei dorasgwrn cefn gyda brĂŞs cefn yn achosi anesmwythder difrifol iddo yn ogystal â thorri ei sternwm ymhellach. Mynegodd Mrs A bryderon hefyd ynghylch methiant y Bwrdd Iechyd i ddiwallu anghenion maeth Mr B, i drefnu gofal a chymorth priodol ar Ă´l iddo gael ei ryddhau, ac i gyfathrebu â hi am ei gyflwr aâi gynlluniau gofal.
Canfuâr ymchwiliad fod sensitifrwydd Mr B i forffin wediâi nodi aâi fod wedi cael meddyginiaeth amgen briodol ar gyfer poen. Roedd rheoli torasgwrn cefn Mr B gyda brĂŞs cefn hefyd yn briodol ac roedd y toriad iâw sternwm yn fwy na thebyg oherwydd ei gyflwr iechyd a oedd yn bodoli eisoes a oedd yn achosi gwendid yn yr esgyrn. Fodd bynnag, roedd y Bwrdd Iechyd yn araf yn ymateb i adroddiadau Mr B am boen o ganlyniad i ddefnyddioâr brĂŞs cefn, yn ogystal ag adolygu ei addasrwydd.
Roedd diffyg tystiolaeth hefyd o ran asesu maeth, monitro a’r camau a gymerwyd i wella faint oedd Mr B yn ei fwyta pan nodwyd bod hynnyân wael, ac uwchgyfeirio ei ofal yn briodol pan nad oedd ei rwymedd yn cael ei ddatrys. Roedd hyn yn destun pryder gan fod Mr B wedi taflu ysgarthion i fyny fel cymhlethdod tebygol oherwydd ei rwymedd. Fe anadlodd yr ysgarthion, a achosodd haint sylweddol yn yr ysgyfaint ac arhosiad hirach yn yr ysbyty. Yn olaf, canfuâr ymchwiliad fod staff meddygol wedi methu â chyfathrebuân effeithiol â Mrs A ynghylch dirywiad yng nghyflwr Mr B ac na fu asesiad nyrsio na chynllunio priodol gyda Mrs A ar gyfer ei ryddhau.
Argymhellodd yr Ombwdsmon y dylaiâr Bwrdd Iechyd ymddiheuro i Mrs A, a thalu ÂŁ500 iddi am y methiannau a nodwyd ac am y trallod a achoswyd. Gofynnwyd iâr Bwrdd Iechyd roi hyfforddiant gloywi ar lenwi dogfennau nyrsio syân ymwneud ag anghenion maeth, gofal rhwymedd a chynllunio rhyddhau, i sicrhau bod cynlluniau gofal nyrsio yn cynorthwyo staff i roi tystiolaeth o gyfathrebu effeithiol ag aelodauâr teulu, ac i rannu canfyddiadauâr adroddiad â staff meddygol aâu hatgoffa o bwysigrwydd cyfathrebu effeithiol ag aelodauâr teulu i gefnogi eu profiad aâu hargraff o ofal.