Cwynodd Mr B am y gofal a roddwyd iâw ferch, Ms E, pan oedd hiân dioddef o brolaps rhefrol a oedd yn dod yn ei Ă´l dro ar Ă´l tro, rhwng mis Chwefror a mis Awst 2019. Ystyriodd yr ymchwiliad y canlynol:
a) Roedd methiant i gydnabod sut roedd ei hanghenion meddygol wedi effeithio ar allu Mr B i gefnogi Ms E yn y gymuned.
b) Roedd methiant i gynnig cymorth ac atgyfeirio fel bod modd cael gafael ar gymorth a/neu gyngor.
c) Rhoddwyd cyngor is-safonol ynghylch anghenion deietegol Ms E ac o ran rheoliâr coluddyn a defnyddio moddion ymgarthu.
d) Rhoddwyd cyngor i Mr B ar sawl achlysur i wthio prolaps Ms E yn Ă´l iâw le â llaw.
e) Ar sawl achlysur, profodd Mr B a Ms E oedi hir yn yr Adran Achosion Brys wrth iddynt aros i gael eu hadolygu gan y tĂŽm llawfeddygol ar alwad (ây TĂŽm Llawfeddygolâ).
f) Nid oedd ymateb y Bwrdd Iechyd iâr gĹľyn yn ddigon cadarn ac felly, nid oedd gwersi wediâu dysgu o gĹľyn Mr B.
Mae gan y Bwrdd Iechyd Gytundeb Lefel Gwasanaeth (darparu elfen benodol ac ar wahân o wasanaethau gofal iechyd) gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe mewn perthynas ââi DĂŽm Iechyd Anabledd Dysgu Cymunedol (ây Gwasanaeth Anableddau Dysguâ).
Canfuâr ymchwiliad fod diffyg gweithredu a chydweithio gan y Gwasanaeth Anableddau Dysgu ac oedi cyn iâr Llawfeddyg Ymgynghorol adolygu Ms E ar Ă´l ei hapwyntiad ym mis Mai. Methodd y Bwrdd Iechyd ag ystyried a threfnu mewnbwn seicolegol i gefnogiâr gwaith o addasu ymddygiad a rheoli gorbryder ar gyfer Ms E ynghylch bwyta a mynd iâr toiled rhwng mis Chwefror a mis Awst 2019. Y Llawfeddyg Ymgynghorol oedd y clinigydd priodol i roi cyngor am ddeiet a defnyddio moddion ymgarthu, ac roedd y cynlluniau rheoliân briodol. Nid oedd unrhyw gydnabyddiaeth iâr ffaith bod Mr B yn helpu i leihau prolaps Ms E gartref, a bod hon yn broses bersonol iawn. Gallaiâr Llawfeddyg Ymgynghorol fod wedi gwneud mwy i weld a oedd Mr B yn gyfforddus gydaâr cyngor a roddwyd a rheoli ei ddisgwyliadau ynghylch pa gefnogaeth oedd ar gael gan y Bwrdd Iechyd (nad oedd yn llawer iawn, heblaw am fynd iâr Adran Achosion Brys). Roedd yr amser a dreuliodd Ms E yn yr Adran Achosion Brys am y TĂŽm Llawfeddygol yn glinigol briodol yn yr amgylchiadau.
Methwyd â delio ââr agwedd cefnogaeth yng nghwyn Mr B, ac nid oedd lefel y straen a roddwyd ar y teulu yn ystod misoedd anodd iawn wedi cael ei chydnabod. Golygai hyn nad oedd Mr B wediâi sicrhau bod ymchwiliad cadarn wediâi gynnal na bod camau priodol yn mynd i gael eu cymryd i sicrhau bod gwersiân cael eu dysgu.
Yn unol â hynny, cafodd paragraffau a) ac f) eu cadarnhau a chafodd b) a d) eu cadarnhauân rhannol.
Cytunodd y Bwrdd Iechyd i ymddiheuro i Mr B am y diffygion a nodwyd, a thalu ÂŁ500 iddo i gydnabod y diffygion clinigol a nodwyd, a thalu swm o ÂŁ250 i gydnabod yn benodol fod y broses o ymdrin ââr gĹľyn wedi bod yn wael. Cytunwyd i wahodd y Llawfeddyg Ymgynghorol aâr Seiciatrydd mewn Gallu Deallusol i bwyso a mesur cynnwys yr adroddiad a thrafod y canfyddiadau yn eu harfarniad blynyddol nesaf.
Mewn ymgynghoriad â Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, cytunwyd y dylaiâr Gwasanaeth Anableddau Dysgu gynhyrchu dogfen gryno o fanyleb eu gwasanaeth aâu cylch gwaith wrth iddo barhau i ddarparu hyfforddiant Cymorth Ymddygiad Cadarnhaol i staff allweddol a chanllawiau ar y sbardunau ar gyfer cyfranogiad gan y nyrsys cyswllt anabledd yn yr ysbyty acĂwt.