Cwynodd Miss V am y gofal a thriniaeth a roddwyd iâw chyfnither, Ms F, gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg (âBIP Cwm Taf Morgannwgâ) a Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe (âBIP Bae Abertaweâ). Yn benodol, roedd yn pryderu bod BIP Cwm Taf Morgannwg a BIP Bae Abertawe (ây Byrddau Iechydâ) wedi colli cyfleoedd i adnabod a thrin llid y pendics Ms F, a achosodd ei phendics rhwygedig.
Ni chadarnhaodd yr Ombwdsmon y gĹľyn yn erbyn BIP Bae Abertawe oherwydd canfu ei bod yn annhebygol y bu Ms F yn dioddef o lid y pendics yn ystod ei hamser o dan ofal Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe.
Cadarnhaodd yr Ombwdsmon y gĹľyn yn erbyn BIP Cwm Taf Morgannwg. Canfu fod BIP Cwm Taf Morgannwg wedi colli cyfleoedd i adnabod a thrin llid y pendics Ms F yn ystod ei hymweliadau ag Uned Triniaethau Dydd mewn Argyfwng yn Ysbyty Tywysoges Cymru ar 17 a 20 Gorffennaf 2020.
Canfuâr Ombwdsmon y bu methiannau i amau llid y pendics a derbyn Ms F i ysbyty ar 17 Gorffennaf, gan ystyried ei phoen difrifol yn yr abdomen, ei phwysedd gwaed anarferol o isel a chanlyniadau profion gwaed a oedd yn dangos presenoldeb haint sylweddol. Bu methiannau hefyd i ragnodi gwrthfiotigau a threfnu ymchwiliadau addas ac amserol, gan gynnwys sganiau. Yn hytrach, cafodd Ms F ei hanfon adref, a dywedwyd wrthi ddychwelyd am ymchwiliadau pellach ar 20 Gorffennaf. Roedd hyn yn fethiant gwasanaeth sylweddol.
Canfuâr Ombwdsmon, ar Ă´l i sgan ar 20 Gorffennaf ddiystyru cerrig bustl fel diagnosis posibl, y bu methiant pellach i dderbyn Ms F iâr ysbyty ar gyfer rhagor o ymchwiliadau i achos ei symptomau. Canfu nad oedd yn briodol anfon Ms F adref ar 20 Gorffennaf gyda chyngor i ddychwelyd am adolygiad ac ymchwiliadau pellach 2 ddiwrnod yn ddiweddarach. Roedd hyn yn fethiant gwasanaeth sylweddol arall. Yn anffodus, ni ddychwelodd Ms F am adolygiad pellach, a bu farw yn ei chartref ar 1 Awst 2020.
Canfuâr Ombwdsmon, yn Ă´l pwysau tebygolrwydd, pe bai BIP Cwm Taf Morgannwg wedi darparu gofal priodol ar 17 neu 20 Gorffennaf, byddai llid y pendics Ms F wediâi adnabod aâi drin, a byddai ei marwolaeth wediâi hosgoi.
Argymhellodd yr Ombwdsmon y dylai BIP Cwm Taf Morgannwg, o fewn 1 mis oâr adroddiad hwn:
Darparu ymddiheuriad gwenieithus i Miss V aâr teulu am y methiannau a nodir yn yr adroddiad hwn a chydnabod iddo golli cyfleoedd i gymryd camau a fyddaiân debygol o fod wedi osgoi marwolaeth Ms F.
Cefnogi teulu Ms F trwy gynnig manylion cyfreithwyr syân gallu darparu i deulu Ms F cyngor cyfreithiol cyfrinachol ac annibynnol i asesu cynnwys a chanfyddiadauâr adroddiad hwn er mwyn iddynt dderbyn iawndal priodol oddi wrth BIP Cwm Taf Morgannwg, am yr anghyfiawnder sylweddol a achoswyd iâr teulu. Dylai BIP Cwm Taf Morgannwg, o fewn 1 mis o ddyddiad yr adroddiad hwn, sicrhau iddo gyllido cefnogaeth gyfreithiol briodol i deulu Ms F er mwyn hwyluso hwn.
Rhannu copi oâr adroddiad hwn ââr Ymgynghorydd Cyntaf aâr Ail Ymgynghorydd a darparu tystiolaeth iâr Ombwdsmon eu bod wedi myfyrio ar y methiannau a nodwyd a sut y gallant wella eu harfer yn y dyfodol.
Atgoffa pob clinigwr syân gweithio mewn lleoliadau triniaeth ddydd i fod yn ymwybodol, pan fyddant yn asesu cleifion â phoen abdomenol, nad yw cyfran sylweddol o gleifion yn dangos llid y pendics nodweddiadol.
Ac o fewn 6 mis oâr adroddiad hwn:
Rhannu copi oâr adroddiad hwn gydaâr rhai syân bresennol yng nghyfarfod nesaf y TĂŽm Llywodraethu Llawfeddygol Clinigol a darparu tystiolaeth bod y canfyddiadau wediâu hystyried aâu trafod.
Cynnal adolygiad i arfer a gweithdrefn (âyr adolygiadâ) o fewn yr UTDmA aâi leoliadau triniaeth ddydd arall i sicrhau bod y methiannau a nodwyd yn yr adroddiad hwn wedi cael sylw priodol, gan gynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i) ystyriaeth oâr canlynol:
i) Sut i sicrhau bod ymchwiliadau priodol (gan gynnwys sganio CT) yn cael eu cynnal ar gyfer poen abdomenol sydd heb ei ddiagnosio pan fydd tystiolaeth o haint/llid.
ii) Sut i sicrhau bod gwrthfiotigau yn cael eu rhagnodiân briodol pan fydd tystiolaeth o haint/llid.
iii) Sut i sicrhau bod dilyniant priodol, gan gynnwys profion gwaed trachefn, a gwaith diagnostig yn cael eu cwblhau cyn rhyddhau claf pan fydd profion gwaed cychwynnol yn awgrymu haint/llid.
iv) Sut i sicrhau bod cleifion sydd angen rheolaeth fwy gweithredol nag y gellir ei ddarparu yn yr UTDmA yn cael eu huwchgyfeirioân briodol.
Creu cynllun gweithredu yn seiliedig ar ganlyniadauâr adolygiad aâi rannu gyda fy swyddfa ac unrhyw adran glinigol y gallaiâr canfyddiadau fod yn berthnasol iddi.
Maeâr Ombwdsmon yn falch o nodi bod BIP Cwm Taf Morgannwg, wrth roi sylwadau ar fersiwn drafft oâi hadroddiad, wedi derbyn ac wedi cytuno i weithreduâr argymhellion hyn.