Notice: [ Timber ] get_context is deprecated since Timber version 2.0.0! Use context instead. in /var/www/vhosts/psow.spindogs-dev7.co.uk/dev/vendor/timber/timber/src/Helper.php on line 462
Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty : Brwdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg – PSOW Cymraeg

Report Date

10/10/2022

Subject

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Case Reference Number

202202271

Outcome

Datrys yn gynnar

Cwynodd Ms X am fethiant i ymchwilio’n briodol i’w endometriosis yn Ysbyty’r Tywysog Siarl a gwneud diagnosis ohono. Dim ond pan gafodd gymorth yn breifat y cafodd ei diagnosio a’i drin. Roedd yn poeni nad oedd y Bwrdd Iechyd wedi ymateb yn briodol i’r gŵyn a’r pryderon yr oedd wedi’u codi ynghylch y methiant i wneud diagnosis o’i chyflwr.
Canfu’r Ombwdsmon nad oedd y Bwrdd Iechyd wedi ymateb i rannau o’r gŵyn yn ymwneud ag ymchwilio i’w chyflwr a gwneud diagnosis ohono. Felly, cytunodd y Bwrdd Iechyd i ddarparu ymateb ysgrifenedig ffurfiol pellach i Ms X (yn cwmpasu materion penodol y manylir arnynt yn y llythyr penderfyniad) o fewn 3 wythnos i ddyddiad y penderfyniad hwn.