Notice: [ Timber ] get_context is deprecated since Timber version 2.0.0! Use context instead. in /var/www/vhosts/psow.spindogs-dev7.co.uk/dev/vendor/timber/timber/src/Helper.php on line 462
Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty : Brwdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg – PSOW Cymraeg

Report Date

17/04/2023

Subject

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Case Reference Number

202106156

Outcome

Cadarnhawyd yn llawn neu yn rhannol

Cwynodd Mrs Y ar ran ei thad, Mr X, fod oedi wedi bod gan y Bwrdd Iechyd o ran y canlynol: cynnal sgan o gefn ac abdomen Mr X; profi ar gyfer, a thrin, haint llwybr wrinol Mr X; a rhoi brechlyn ffliw i Mr X. Cwynodd hefyd fod y Bwrdd Iechyd wedi rhoi gwybod yn amhriodol i Mr X yn uniongyrchol y byddai’n cael ei ryddhau i ofal preswyl a methodd â darparu ystafell ochr iddo cyn iddo gael ei ryddhau, a ohiriodd ei drefniadau rhyddhau, am iddo ddod i gyswllt dro ar ôl tro â chleifion COVID-19.

Daeth yr ymchwiliad i’r casgliad bod y ffordd yr oedd y Bwrdd Iechyd wedi gweithredu ynglÅ·n â sgan Mr X a darparu ei frechlyn ffliw yn rhesymol. Canfu hefyd na achoswyd unrhyw niwed gan yr amser a gymerwyd i brofi wrin Mr X ac nad oedd angen triniaeth. Ar ben hynny, doedd dim gofyniad i ddarparu ystafell ochr i Mr X am nad oedd yn dod o fewn unrhyw un o’r categorïau blaenoriaeth. Fodd bynnag, fe wnaeth yr Ombwdsmon gadarnhau cwyn Mrs Y bod y Bwrdd Iechyd wedi rhoi gwybod yn amhriodol i Mr X yn uniongyrchol y byddai’n cael ei ryddhau i ofal preswyl.

Cytunodd y Bwrdd Iechyd ag argymhellion yr Ombwdsmon i ymddiheuro i Mrs Y am y methiant a nodwyd yn yr adroddiad hwn ac i gynnal hyfforddiant Galluedd Meddyliol i staff yn yr Ysbyty.