Cwynodd Ms L am safon gyffredinol y gofal mamolaeth a gafodd yn Ysbytyâr Tywysog Siarl (âyr Ysbytyâ) ar 3 achlysur gwahanol yn 2017, 2018 a 2019.
Canfu ymchwiliad yr Ombwdsmon fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg (ây Bwrdd Iechydâ), yn ei ymateb iâr gĹľyn, wedi ymddiheuroân briodol ac wedi cynnig swm derbyniol o iawn ariannol i Ms L yn dilyn ei hymweliad cyntaf ââr Ysbyty yn 2017 (cynnig a wrthododd hi). Gwahoddodd yr Ombwdsmon y Bwrdd Iechyd i gynnig yr iawn ariannol eto gan mai dymaâr swm o arian y byddai ef wediâi argymell petai wedi cadarnhauâr elfen hon o gĹľyn Ms L.
Roedd yr Ombwdsmon yn fodlon ââr gofal cyffredinol a roddwyd i Ms L yn 2018 a 2019. Lleâr oedd y Bwrdd Iechyd wedi canfod methiannau yn ei ymateb iâr gĹľyn, roedd yr Ombwdsmon yn fodlon ââr camau yr oedd wediâu cymryd i fynd iâr afael ââr methiannau a daeth iâr casgliad nad oedd angen cymryd camau pellach.
Fodd bynnag, roedd yr Ombwdsmon yn bryderus mai prin iawn oedd y cyfeiriadau yng nghofnodion meddygol Ms L a oedd yn nodi ei lefelau BMI uchel. Er gwaethaâr risgiau mwy syân gysylltiedig â lefel BMI uchel, nid oedd cynllun cyn geni priodol wedi cael ei greu ar gyfer Ms L i adlewyrchu ei sefyllfa. Er nad oedd hyn wedi achosi unrhyw niwed i Ms L, gwahoddodd yr Ombwdsmon y Bwrdd Iechyd i ystyried ei sylwadau a rhoi manylion iddo am yr hyn y maeân ei wneud yn awr o ran cynllunio gofal ar gyfer menywod sydd â lefel uchel o BMI yn ystod beichiogrwydd. Cytunodd y Bwrdd Iechyd i wneud hyn. Ni wnaeth yr Ombwdsmon gadarnhauâr gĹľyn.