Cwynodd Ms A am y gofal a roddwyd iddi gan Fwrdd Iechyd Addysgu Powys. Dywedodd fod y Bwrdd Iechyd wedi camreoliâr driniaeth o lwmp yn rhan isaf ei chroth oherwydd ei fod wedi camddiagnosioâr lwmp fel polyp (tyfiant) ac wedi methu ag egluroâr risgiau syân gysylltiedig ââi dynnu, wedi methu â rhoi anesthetig lleol iddi wrth ei dynnu, ac wedi methu archwilioâr gwaedu cysylltiedig cyn ei chaniatĂĄu i adael y clinig perthnasol. Cwynodd hefyd fod y Bwrdd Iechyd wedi methu ag ymchwilio a delio ââi chwyn yn briodol.
Gofynnodd y Bwrdd Iechyd iâr Ombwdsmon a allai ymchwilio i bryderon Ms A am ei thriniaeth yn unol ââr rheoliadau trin cwynion (ây Rheoliadauâ). Roedd yn nodi, wrth wneud y cais hwnnw, fod corff iechyd arall (ây Corff Iechyd Arallâ) wedi ymateb iâr pryderon hynny. Dywedodd hefyd fod y Corff Iechyd Arall wedi gwneud hynny oherwydd y gofal cysylltiedig yr oedd wediâi roi i Ms A ac oherwydd ei gyflogaeth oâr Gynaecolegydd Ymgynghorol a oedd wediâi thrin fel rhan o drefniant comisiynu. Canfuâr Ombwdsmon nad oedd y Bwrdd Iechyd wedi ymchwilio iâr pryderon ynghylch gofal clinigol yr oedd Ms A wediâu nodi yn ei chwyn yn iddi hi. Roedd oâr farn bod Ms A wedi dioddef anghyfiawnder, ar ffurf siom a gofid, oherwydd hynny.
Roedd yr Ombwdsmon oâr farn, yng ngoleuni cais y Bwrdd Iechyd i ymchwilio, y byddaiân briodol ceisio setlo cwyn Ms A. Ar Ă´l hynny, cytunodd y Bwrdd Iechyd i ymchwilio i bryderon gofal clinigol Ms A yn unol ââr Rheoliadau, i adolyguân ffurfiol ei ddull o ymdrin â chwynion am ofal wediâi gomisiynu a sut maeân ymdrin ââi chwyn, i baratoi cynllun gweithredu i fynd iâr afael ag unrhyw ddiffygion a nodwyd yn ystod ei hadolygiad o drin cwynion ac i ysgrifennu at Ms A i roiâr wybodaeth ddiweddaraf iddi am ganlyniad yr adolygiad hwnnw. Roedd yr Ombwdsmon oâr farn bod y camau yr oedd y Bwrdd Iechyd wedi cytuno iâw cymryd yn rhesymol. Yn unol â hynny, roedd cwyn Ms A wedi cael ei setlo ym marn yr Ombwdsmon.