Cwynodd Ms D cyn cael Catheter Swprapwbic (âSPCâ) wediâi osod yn Ysbyty Brenhinol Gwent, ni chafodd wybod yr holl fanylion am y weithdrefn. Cwynodd nad oedd unrhyw un wedi egluro iddi y byddaiâr SPC yn cael ei gosod gan sistosgĂ´p a fyddaiân cael ei gyflwyno iâw phledren drwyâr wrethra tra y byddai o dan anaesthetig cyffredinol. Dywedodd Ms D na fyddai wedi cytuno i gael y weithdrefn pe byddai wedi gwybod hyn oherwydd ei hanes o boen a thrawma wrethral. Cwynodd Ms D hefyd:
a) Bod cofrestrydd wroleg a roddodd ofal iddiân ansensitif, ac wediâi thrin yn amhroffesiynol o ran tĂ´n ac ymddygiad.
b) Ni welodd wrolegydd ymgynghorol ar unrhyw adeg yn ystod ei harhosiad.
c) Cafodd ei rhyddhau oâr ysbyty heb wrthfiotigau priodol am haint y llwybr wrinol (âUTIâ). O ganlyniad, cafodd ei derbyn iâr ysbyty eto ychydig wythnosauân ddiweddarach gyda symptomau haint.
d) Nid oedd taflen wybodaeth a roddwyd iddi am y weithdrefn SPC yn egluro y byddaiâr bledren yn cael ei gyrraedd drwy sistosgĂ´p drwyâr wrethra.
Cadarnhaodd yr Ombwdsmon gwynion a) a b) a chadarnhaodd yn rhannol cwyn c) (gan ddysgu bod Ms D wedi cael ei rhyddhau heb wrthfiotigau priodol ond nid hyn wnaeth achosi ei derbyn eto ychydig wythnosauân ddiweddarach). Ni gadarnhaodd gĹľyn d). O ran cwyn Ms D am gydsyniad, ni chadarnhaodd yr Ombwdsmon y gĹľyn hon oherwydd roedd tystiolaeth ddigonol fod y broses gydsyniad wediâi chynnal yn gywir. Er bod yr Ombwdsmon yn derbyn sylwad Ms D nad oedd yn deall yn llawn bod y weithdrefn yn cynnwys systosgĂ´p drwyâr wrethra, roedd yn fodlon bod digon o wybodaeth am y weithdrefn (gan gynnwys defnydd o sistosgĂ´p) wediâi rhannu gan glinigwyr mewn 2 drafodaeth wahanol, mewn taflen wybodaeth i gleifion ac yn y ffurflen gydsyniad oedd yn nodi risgiau ac Ă´l-effeithiau. Ni ddaeth yr Ombwdsmon o hyd i unrhyw dystiolaeth i awgrymu nad oedd Ms D wedi cael digon o gyfle i brosesuâr wybodaeth hon ac i godi cwestiynau a/neu geisio eglurder ar unrhyw fater nad oedd yn siĹľr amdano neuân poeni amdano.
Argymhellodd yr Ombwdsmon y dylai Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan (ây Bwrdd Iechydâ) ymddiheuroân llawn yn ysgrifenedig i Ms D am y methiannau a nodwyd, a thaliad unioni o ÂŁ250 i gydnabod yr amser aâr drafferth yr oedd wediâu profi wrth uwchgyfeirio ei chĹľyn.
Argymhellodd hefyd y dylid trafod yr adroddiad gydaâr Cofrestrydd Wroleg yn ei werthusiad nesaf, ac y dylaiâr Bwrdd Iechyd rannu manylion am y mesurau a roddwyd ar waith i sicrhau bod cleifion sydd angen gwrthfiotigau wrth gael eu rhyddhau (ar sail canlyniadau profion gwaed) yn eu cael nhw cyn gadael yr ysbyty.
Derbyniodd y Bwrdd Iechyd y canfyddiadau hyn a chytunodd i weithreduâr argymhellion.