Cwynodd Mr D fod y gofal aâr driniaeth a gafodd ei ddiweddar fam yng nghyfraith, Mrs M, ar Ă´l iddi gael ei throsglwyddo o Ysbyty Brenhinol Gwent (âyr Ysbyty Cyntafâ) i Ysbyty Cymunedol Ystrad Fawr (âyr Ail Ysbytyâ) wedi cyfrannu at ei marwolaeth sydyn tua 2 ddiwrnod yn ddiweddarach o Niwmonia a gafwyd yn yr Ysbyty (âHAPâ). Cwynodd Mr D am y canlynol:
1. Daethpwyd â gwrthfiotigau i ben cyn i Mrs M gael ei throsglwyddo ond ni chawsant eu hailgychwyn er bod canlyniadau profion gwaed yn dangos bod ganddi haint.
2. Nid oedd Mrs M wedi cael digon o hylif ac nid oedd hynnyân cael ei fonitroân ddigonol.
3.Nid oedd Mrs M yn cael ei monitroân ddigonol gan nyrsys ac, er ei bod hi wedi cael teclyn galw, nid oedd yn siĹľr sut iâw ddefnyddio.
4. Roedd cyfathrebu ââr teuluân wael ac, ar adegau, roedd y nyrsys yn ansensitif ac yn amhroffesiynol o ran tĂ´n a dull.
Dyfarnodd yr Ombwdsmon fod cwyn 1 wedi ei chyfiawnhau iâr graddau bod yr Ysbyty Cyntaf wedi rhoiâr gorau i wrthfiotigau Mrs M yn rhy gynnar (roedd Mrs M wedi marw erbyn yr adeg roedd yr angen iâw hailgychwyn wedi cael ei bennu gan yr Ail Ysbyty). Canfuâr Ombwdsmon hefyd nad ymchwiliwyd iâr rheswm pam na ymatebodd Mrs M iâr gwrthfiotigau a dderbyniodd i ddechrau yn yr Ysbyty Cyntaf ac na ofynnwyd am gyngor microbiolegol. Roedd hyn yn gyfle a gollwyd i reoli a sefydlogi cyflwr Mrs M ac, felly, i wella ei phrognosis.
Dyfarnodd yr Ombwdsmon fod cwyn 2 wedi ei chyfiawnhau iâr graddau y dangoswyd bod Mrs M wedi dadhydradu ar y bore y bu farw (ond nid cyn hyn). Canfu hefyd na roddwyd sylw penodol i reoli faint o hylif roedd Mrs M yn ei gael yn ei chynlluniau gofal.
Ni wnaeth yr Ombwdsmon gadarnhau cwyn 3. Canfu fod y gwaith o fonitro Mrs M gan nyrsys yn yr Ail Ysbyty o safon dda. Cadarnhaodd yr Ombwdsmon gĹľyn 4 ond roedd oâr farn bod y mater wedi cael sylw priodol gan y Bwrdd Iechyd ac nad oedd angen rhagor o argymhellion.
O ran cwyn gyffredinol Mr D fod y methiannau hyn wedi cyfrannu at farwolaeth sydyn Mrs M, canfuâr Ombwdsmon, er bod methiannau rheoli gwrthfiotigau yn yr Ysbyty Cyntaf yn debygol o fod wedi galluogiâr haint ar frest Mrs M i ddatblygu, na ellid pennu hyn yn derfynol. O ystyried y rhesymau cyfun a chymhleth am farwolaeth Mrs M, ynghyd ââi hoedran aâi breguster, nid oedd yn bosib dweud y byddai gwrthfiotig mwy sensitif wedi atal ei marwolaeth sydyn a/neu wedi arwain at ei gwellhad. Fodd bynnag, canfuâr Ombwdsmon fod y methiannau yn rheolaeth gwrthfiotig Mrs M yn gyfle a gollwyd i wneud y gorau oâi thriniaeth ac yn creu ansicrwydd iâr teulu ynghylch a fyddai hyn wedi arwain at ganlyniad gwahanol. Iâr graddau hynny, dyfarnwyd bod y gĹľyn wedi ei chyfiawnhau.
Argymhellodd yr Ombwdsmon bod y Bwrdd Iechyd yn darparu ymddiheuriad ystyrlon i Mr D am y methiannau a nodwyd, ynghyd â thaliad o ÂŁ250. Argymhellodd hefyd y dylid rhannuâr adroddiad gydaâr Cyfarwyddwr/Cyfarwyddwyr Clinigol a Nyrsio syân gyfrifol am y timau syân ymwneud â gofal Mrs M yn y ddau ysbyty a bod clinigwyr yn cael eu hatgoffa:
⢠Y dylai fod yn arfer rheolaidd i gael gafael ar feithriniadau gwaed cyn dechrau therapi gwrthfiotig
⢠Na ddylid trosglwyddo cleifion ar gyfer ailsefydlu sydd â niwmonia heb ei drin yn gyflawn
⢠Pwysigrwydd hydradiad a maeth wrth gynllunio gofal.