Cwynodd Mr X am y driniaeth a gafodd ei ddiweddar fam, Mrs Y, yn Ysbyty Brenhinol Gwent ym mis Medi 2020 ar Ă´l iddi gael strĂ´c, yn enwedig y feddyginiaeth a roddwyd i leihau ei phwysedd gwaed. Dirywiodd cyflwr Mrs Y; daethpwyd iâr casgliad ei bod wedi dioddef âdigwyddiad dinistriolâ arall yng nghoesyn yr ymennydd a bu farw, yn drist iawn, ychydig ddyddiauân ddiweddarach.
Canfuâr Ombwdsmon fod Mrs Y wedi cael 3 meddyginiaeth wahanol i leihau ei phwysedd gwaed. Er na nodwyd un ohonynt (arllwysiad GTN) ac na ddylid fod wediâi rhoi, ac y byddai wedi bod yn fwy priodol gohirio meddyginiaeth arall tan y diwrnod canlynol, nid oedd y dirywiad yng nghyflwr Mrs Y wediâi achosi gan ostyngiad yn ei phwysedd gwaed ac felly nid oedd hyn o ganlyniad iâr feddyginiaeth a dderbyniodd. Canfuâr Ombwdsmon hefyd fod diffygion o ran cadw cofnodion. Fodd bynnag, nid oedd methiant yn y gwasanaeth naâr methiannau gweinyddol wedi achosi anghyfiawnder i Mrs Y ac felly ni chafodd y gĹľyn ei chadarnhau gan yr Ombwdsmon.