Cwynodd Mrs A am y ffordd y deliodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan (ây Bwrdd Iechydâ) â chwyn, a gyflwynwyd yng nghyswllt y gofal aâr driniaeth a ddarparwyd iâw diweddar Ĺľr. Dywedodd Mrs A na chafodd wybod am fodolaeth gwasanaethau eiriolaeth a fyddai wedi ei helpu drwyâr broses gwyno. Hefyd, dywedodd Mrs A nad oedd ymateb y Bwrdd Iechyd iâr gĹľyn yn rhoi sylw llawn iâr pryderon a godwyd ganddi.
Canfuâr Ombwdsmon fod y Bwrdd Iechyd wedi methu rhoi gwybod i Mrs A am argaeledd gwasanaethau eiriolaeth a chymorth a fyddai wedi gallu ei helpu. Canfu hefyd nad oedd y Bwrdd Iechyd wedi ymddiheuro i Mrs A am fethiant a nodwyd yn ei ymchwiliad o ran y diffyg asesiadau galluedd a gynhaliwyd. Hefyd, gwelodd nad oedd adroddiad yr ymchwiliad yn rhoi sylw i nifer o faterion a godwyd gan Mrs A.
Cysylltodd yr Ombwdsmon ââr Bwrdd Iechyd, ac er mwyn datrys cwyn Mrs A, cytunodd y dylai, o fewn 20 diwrnod gwaith, roi ymddiheuriad ac esboniad iddi am y methiant i ddarparu manylion gwasanaethau eiriolaeth iddi, ymddiheuro am y methiant i gynnal unrhyw asesiadau galluedd ar gyfer ei diweddar Ĺľr, darparu manylion i Mrs A aâr Ombwdsmon am y camau a gymerwyd i wellaâr ddarpariaeth gwasanaeth o ran sicrhau bod asesiadau galluedd yn cael eu cwblhau, a darparu ymateb ysgrifenedig pellach i gĹľyn a oedd yn rhoi sylw iâr materion a oedd heb eu datrys.