Cwynodd Ms A wrth yr Ombwdsmon am y gofal a ddarparwyd iâw diweddar fam, Mrs B, yn Ysbyty Brenhinol Gwent (âyr Ysbytyâ) yn benodol:
⢠bod meddygon wedi methu ymchwilioân ddigonol i symptomau Mrs B o boen difrifol yn yr abdomen, chwydu a cholli pwysau yn ystod 2 arhosiad (rhwng 19 a 20 Tachwedd a rhwng 26 Tachwedd a 19 Rhagfyr 2018)
⢠bod Mrs B, ar y ddau achlysur, wedi cael ei rhyddhau heb gefnogaeth ddigonol (a dulliau rheoli poen) a heb allu ymdopi gartref, wedi cael ei haildderbyn o fewn dyddiau
⢠bod meddygon wedi methu canfod/rhoi gwybod am rwystriad yn y rhydweli fesenterig uwch (âSMAâ) a oedd iâw weld ar sganiau CT a gynhaliwyd ar 19 Tachwedd a 7 Rhagfyr 2018. Dywedodd Ms A fod hyn wedi achosi oedi gydaâr driniaeth feddygol a/neuâr ymyriad llawfeddygol ac, o ganlyniad, gofynnodd a fyddai canlyniad triniaeth a gofal Mrs B wedi bod yn wahanol petaiâr rhwystr wedi cael ei ganfod.
⢠Yn olaf, cwynodd Ms A fod y ffordd y deliodd y Bwrdd Iechyd ââi chĹľyn/pryder o dan y Cynllun Gweithio i Wella yn ddiffygiol ac yn rhy hir, a bod y cyfathrebu â hi yn wael, yn anaml ac yn ddi-fudd.
Canfuâr Ombwdsmon, er bod yr ymchwiliadau a gynhaliwyd yn ystod yr arhosiad cyntaf aâr ail gyfnod derbyn yn briodol, y dylai clinigwyr fod wedi cynnal ymchwiliadau pellach yn ystod ail arhosiad Mrs B yn absenoldeb diagnosis clir o achos ei phoen heb ei datrys. Felly cadarnhaodd yr Ombwdsmon y gĹľyn iâr graddau cyfyngedig hynny.
Canfuâr Ombwdsmon, er bod y penderfyniad i ryddhau Mrs B pan gafodd ei derbyn y tro cyntaf yn briodol, nad oedd digon o dystiolaeth bod clinigwyr wedi ystyried ei gofynion lliniaru poen yn ddigonol. Roedd y penderfyniad i ryddhau Mrs B oâr ail arhosiad yn amhriodol ac unwaith eto, roedd clinigwyr wedi methu ystyried ei gofynion lliniaru poen yn iawn. Felly cadarnhaodd yr Ombwdsmon y gĹľyn hon iâr graddau hynny.
Canfuâr Ombwdsmon nad adroddwyd ar yr achludiad a welwyd yn y sganiau 2CT cyntaf, gan beri oedi gyda diagnosis Mrs B. Fodd bynnag, ni chafodd yr oedi lawer o effaith glinigol gan nad oedd diagnosis cynharach wedi newid naill ai’r cynllun triniaeth neu’r canlyniad. Ni chadarnhaodd yr Ombwdsmon y gĹľyn hon.
Canfu’r Ombwdsmon fod y ffordd yr ymdriniodd y Bwrdd Iechyd ââr cwynion yn hirfaith ac nad oedd yn rhoi diweddariadau priodol i Ms A. Fe wnaeth yr Ombwdsmon gadarnhau’r gĹľyn hon.
Fe wnaeth yr Ombwdsmon argymell y dylai’r Bwrdd Iechyd ymddiheuro i Ms A a thalu ÂŁ250 iddi er mwyn cydnabod yr amser a’r drafferth wrth ddilyn ei chwyn. Gwnaeth argymhellion hefyd ar gyfer atgoffa staff ynghylch lleddfu poen, asesu ac ymchwiliadau lle nad oes diagnosis, a bod yr wybodaeth yn cael ei rhoi i radiolegwyr. Cytunodd y Bwrdd Iechyd i roiâr argymhellion ar waith.