Cwynodd Mr A i Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan (ây Bwrdd Iechydâ) am y gofal aâr driniaeth a roddwyd iâw ddiweddar wraig, Mrs A, gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd aâr Fro (âBIPCFâ) ac Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru (âyr Ymddiriedolaethâ). Cwynodd Mr A wrth yr Ombwdsmon, yn dilyn ymateb y Bwrdd Iechyd, nad oedd wedi cael atebion iâr holl gwestiynau a godwyd ganddo.
Canfuâr Ombwdsmon fod y Bwrdd Iechyd wedi cymryd yr awenau o ran cydlynu ymchwiliad/ymateb i Mr A, a hynny ar y cyd â BIPCF aâr Ymddiriedolaeth. Fodd bynnag, nid oedd holl bryderon Mr A am BIPCF wedi cael sylw ac nid oedd wedi cael unrhyw ymateb o gwbl gan yr Ymddiriedolaeth. Er bod y Bwrdd Iechyd wedi egluro bod yr Ymddiriedolaeth yn cyhoeddi ymateb ar wahân i gĹľyn fel arfer, roedd dyletswydd arni o hyd i sicrhau bod Mr A yn cael ymateb cydlynol iâw gĹľyn ac roedd y Bwrdd Iechyd wedi methu gwneud hynny.
Er mwyn datrys cwyn Mr A, cytunodd y Bwrdd Iechyd, o fewn 30 diwrnod gwaith, i roi ymddiheuriad ysgrifenedig iddo am y methiant i ddarparu ymateb cydlynol, a oedd yn mynd iâr afael â phob agwedd ar ei gĹľyn a hefyd i ddarparu ymateb ysgrifenedig pellach i Mr A a oedd yn rhoi sylw i bob agwedd ar ei gĹľyn, gan gynnwys y rhai syân ymwneud ââr gofal aâr driniaeth a ddarparwyd gan BIPCF aâr Ymddiriedolaeth.