Cwynodd Ms A am y gofal a gafodd yn Ysbyty Nevill Hall, syân cael ei reoli gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan (ây Bwrdd Iechydâ), yn ystod gwahanol gamau ei beichiogrwydd aâi gofal Ă´l-enedigol. Yn ogystal, cwynodd Ms A am y diffyg cymorth bwydo ar y fron a methiant i gefnogi cyswllt croen-i-groen gydaâi mab ar Ă´l iddo gael ei eni. Roedd hefyd yn anfodlon â rheolau ymweld yr Uned Babanod Newydd-anedig. Er bod cyflwr iechyd meddwl Ms A yn golygu ei bod yn bodloniâr meini prawf ar gyfer cymorth ychwanegol, cyfeiriodd Ms A at y diffyg addasiadau rhesymol a wnaed ar ei rhan yn dilyn newidiadau yng nghanllawiau COVID-19 Llywodraeth Cymru ym mis Gorffennaf 2020. Yn olaf, roedd Ms A yn anfodlon ââr ffordd y deliodd y Bwrdd Iechyd ââr gĹľyn a pha mor gadarn oedd ymateb y Bwrdd iâr gĹľyn.
Canfu ymchwiliad yr Ombwdsmon fod methu ystyried neu wneud addasiadau rhesymol yn thema reolaidd yng nghwynion Ms A. Daeth yr Ombwdsmon iâr casgliad, o ran gofal cynenedigol Ms A, nad oedd fawr ddim tystiolaeth yng nghofnodion y Bwrdd Iechyd (heblaw ambell enghraifft brin) i ddangos bod addasiadau rhesymol wedi cael eu hystyried na fod Canllawiau Llywodraeth Cymru ym mis Gorffennaf 2020 wedi cael eu rhoi ar waith yn achos Ms A.
Unwaith eto, wrth i Ms A roi genedigaeth ac yn y gofal Ă´l-enedigol, roedd methiannau gan y Bwrdd Iechyd o ran ei ddyletswyddau cydraddoldeb, elfennau o reoli poen Ms A (yn ystod y cyfnod esgor cynnar), a chyfathrebu â hi. Daeth yr Ombwdsmon iâr casgliad y byddai hyn wedi cyfrannu at wneud i Ms A deimlo ei bod wedi cael profiad geni âgwaelâ. Canfuâr Ombwdsmon y gellid bod wedi gwneud mwy i gefnogi Ms A gyda bwydo ar y fron a chyswllt croen-i-groen, ac fel rhan o hyn, gellid bod wedi ystyried addasiadau rhesymol ynghylch trefniadau ymweld yn yr uned babanod newydd-anedig. Cadarnhaodd yr Ombwdsmon gwynion Ms A i raddau amrywiol ac roedd ei hargymhellion yn cynnwys y Bwrdd Iechyd yn ymddiheuro i Ms A am y methiannau a nodwyd; darparu hyfforddiant iâw staff mamolaeth ar eu dyletswyddau cydraddoldeb wrth wneud addasiadau rhesymol ac os na wnaeth hynny, cysylltu ââi Swyddog Cydraddoldeb fel rhan oâi broses gwyno lle codwyd addasiadau rhesymol mewn cwyn.