Notice: [ Timber ] get_context is deprecated since Timber version 2.0.0! Use context instead. in /var/www/vhosts/psow.spindogs-dev7.co.uk/dev/vendor/timber/timber/src/Helper.php on line 462
Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty : Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan – PSOW Cymraeg

Report Date

04/08/2023

Subject

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Case Reference Number

202208527

Outcome

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mrs A am ofal a rheolaeth ei diweddar fam pan aeth i’r Adran Achosion Brys ar 16 Chwefror 2022, a’i marwolaeth yn dilyn hynny. Dywedodd Mrs A nad oedd y Bwrdd Iechyd wedi ymddiheuro iddi am y methiannau yng ngofal ei mam fel rhan o’i Adolygiad Digwyddiad Difrifol (“SIR”) ac nad oedd yn teimlo bod gwersi wedi’u dysgu na bod mesurau wedi’u rhoi ar waith i atal yr un peth rhag digwydd eto.
Cytunodd y Bwrdd Iechyd i ymddiheuro i Mrs A a’i theulu am y diffygion yn rheolaeth a gofal eu diweddar fam yn ogystal â rhoi esboniad llawn o’r mesurau a gyflwynwyd o ganlyniad i hyn. At hynny, cytunodd y Bwrdd Iechyd i ymddiheuro i’r teulu am y diffygion yn ei brosesau cwyno wrth ddelio â chwynion.