Notice: [ Timber ] get_context is deprecated since Timber version 2.0.0! Use context instead. in /var/www/vhosts/psow.spindogs-dev7.co.uk/dev/vendor/timber/timber/src/Helper.php on line 462
Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty : Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan – PSOW Cymraeg

Report Date

28/09/2023

Subject

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Case Reference Number

202203873

Outcome

Cadarnhawyd yn llawn neu yn rhannol

Cwynodd Mrs D am y gofal a’r driniaeth a gafodd ei gĹľr, Mr D, gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan (“y Bwrdd Iechyd”) a’i Bractis Meddygon Teulu. Cadarnhawyd yn rhannol gĹľyn Mrs D bod y Practis Meddygon Teulu wedi colli cyfleoedd i gynnal asesiadau, ymchwiliadau a/neu atgyfeiriadau a fyddai wedi arwain at ganfod canser Mr D yn gynt. Canfu’r ymchwiliad bod y driniaeth glinigol roedd y Practis wedi’i rhoi i Mr D cyn 21 Rhagfyr yn briodol. Serch hynny, canfu bod methiant wedi bod o ran anfon sampl carthion i gael ei ddadansoddi. Roedd hyn yn golygu bod y Meddygon Teulu oedd yn asesu symptomau Mr D wedi cael eu hamddifadu o wybodaeth glinigol a allai fod wedi bod yn bwysig. Canfu’r ymchwiliad bod methiant wedi bod o ran atgyfeirio Mr D drwy’r broses llwybr brys lle’r amheuir canser ar 21 Rhagfyr. Roedd hyn wedi rhoi Mr D mewn perygl o niwed y gellid ei osgoi.

Hefyd, cadarnhaodd yr Ombwdsmon gwynion Mrs D bod y Bwrdd Iechyd wedi methu ymchwilio i ganser Mr D a’i drin mewn modd amserol a phriodol ac wedi methu rhoi gwybod i Mr D mewn modd priodol beth oedd yn digwydd o ran penderfyniadau am ei ofal ac o’i gynnwys yn y penderfyniadau hynny. Canfu’r ymchwiliad bod oedi afresymol wedi bod ar ran y Bwrdd Iechyd wrth ymchwilio i symptomau Mr D yn dilyn atgyfeiriad gan Feddyg Teulu ar 11 Awst 2021. Er nad oedd yn bosib dweud a fyddai’r canser wedi cael ei ganfod yn gynt, roedd y cyfle coll hwn yn anghyfiawnder i Mr D. Canfu’r ymchwiliad hefyd bod methiant wedi bod ar ran y Bwrdd Iechyd o ran cyfathrebu’n briodol â Mr D a darparu cefnogaeth briodol iddo ar Ă´l iddo gael diagnosis o ganser, gan achosi trallod y gellid fod wedi’i osgoi iddo.

Cytunodd y Practis i argymhellion yr Ombwdsmon i ymddiheuro a thalu iawndal o £250 i Mrs D ac i rannu’r adroddiad a’r pwyntiau dysgu â chlinigwyr perthnasol. Cytunodd y Bwrdd Iechyd i weithredu argymhellion yr Ombwdsmon o ran ymddiheuro a thalu iawndal o £750 i Mrs D ac i rannu’r adroddiad a’r pwyntiau dysgu â chlinigwyr perthnasol, ac i adolygu ei broses ar gyfer rhestru cleifion ar gyfer triniaethau endosgopi.