Mae Mr C wedi cwyno am y gofal aâr driniaeth a gafodd ei wraig, Mrs A, gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan (ây Bwrdd Iechydâ) pan aeth iâr Adran Achosion Brys (âyr Adran Achosion Brysâ) yn Ysbyty Athrofaol y Grange (âyr Ysbytyâ) ym mis Ionawr 2021. Cwynodd am y methiant i roi diagnosis o strĂ´c gyntaf Mrs A pan aeth iâr Adran Achosion Brys ar 25 Ionawr 2021; yn ogystal â methiannau mewn gofal nyrsio a meddygol dros benwythnos 19 Chwefror ynghylch diagnosis strĂ´c. Yn olaf, roedd yn anfodlon ââr ffordd y deliodd y Bwrdd Iechyd ââr gĹľyn a pha mor gadarn oedd ei ymateb iâr gĹľyn.
Ar sail symptomau Mrs A, canfuâr ymchwiliad y gallai fod wedi bod yn rhesymol ystyried a oedd strĂ´c fach wedi digwydd yn ystod ei harhosiad ym mis Ionawr. Ac ystyried hyn, ni ddylai fod wedi cael ei rhyddhau nes bod trafodaethau wedi cael eu cynnal gyda chlinigwyr perthnasol eraill fel yr arbenigwyr strĂ´c, niwrolegwyr a radiolegwyr ac archwiliad pellach, yn benodol sgan uwchsain Doppler. Roedd yr Ombwdsmon hefyd yn bryderus na chynhaliwyd trafodaeth glinigol allweddol gyda Mrs A ynghylch cael ei rhyddhau, ac na chafodd sgan MRI ac ymchwiliadau eraill a oedd wediâu cynnal fel claf allanol, eu cofnodi yng nghofnodion clinigol Mrs A. Yn absenoldeb dogfennau oâr fath, nid oedd modd dweud bod trafodaeth oâr fath wedi digwydd. Daeth yr ymchwiliad iâr casgliad bod y methiant gweinyddol hwn nid yn unig yn gamweinyddu ond nad oedd hefyd yn cydymffurfio â chanllawiauâr Cyngor Meddygol Cyffredinol ar gadw cofnodion. Wedi dweud hynny, roedd yr Ombwdsmon yn fodlon na fyddai unrhyw oedi wrth gynllunio triniaeth wedi newid canlyniad Mrs A. Roedd y methiannau o ran y gwasanaeth a nodwyd yn golygu y byddai Mrs A aâi theulu yn ansicr drwy beidio â gwybod a gafodd strĂ´c fach yn ystod y cyfnod hwn. O ganlyniad, roeddent yn llai parod nag y gallent fod pan ddioddefodd strĂ´c fawr ar Ă´l iddi gael ei rhyddhau gartref ac roedd hyn yn anghyfiawnder i Mrs A aâi theulu. Dim ond iâr graddau cyfyngedig hyn y cafodd yr agwedd hon ar gĹľyn Mr C ei chadarnhau.
Ni chadarnhawyd cwynion Mr C am fethiannau mewn gofal nyrsio a meddygol a chyfathrebu ââr teulu dros benwythnos 19 Chwefror.
Canfuâr ymchwiliad nad oedd oedi wrth ddelio â chwynion yn afresymol. Fodd bynnag, nodwyd diffyg dyfnder a thrylwyredd digonol yn ymchwiliad y Bwrdd Iechyd. Roedd hyn yn golygu bod yn rhaid i Mr C dreulio amser a thrafferth ychwanegol diangen yn mynd ar drywydd ei bryderon. Roedd hyn yn anghyfiawnder iddo, a chafodd yr agwedd hon ar ei gĹľyn ei chadarnhau.
Gofynnwyd iâr Bwrdd Iechyd ymddiheuro i Mr C a darparu iawndal ariannol o ÂŁ250 i gydnabod y trallod a achoswyd iddo gan y methiannau o ran delio â chwynion. Gofynnwyd iâr Bwrdd Iechyd hefyd ddarparu hyfforddiant i glinigwyr perthnasol ar Ganllawiauâr Sefydliad Gofal a Rhagoriaeth Cenedlaethol, ac iâw hatgoffa oâr angen i gofnodiâr holl wybodaeth berthnasol yn gywir yng nghofnodion meddygol cleifion.