Cwynodd Mrs X nad oedd y staff nyrsio ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan (ây Bwrdd Iechydâ) wedi monitro ei cholled gwaed yn briodol yn ystod gwaedlif ar Ă´l rhoi genedigaeth. Ni chadarnhaodd yr Ombwdsmon y gĹľyn.
Daeth yr archwiliad iâr casgliad fod colled gwaed Mrs X wedi cael ei fonitroân briodol a bod ymateb y Bwrdd Iechyd iâw cholled gwaed yn gyflym ac yn briodol. Roedd methiant o ran cofnodi arsylwadau Mrs X ar y cyfnodau gofynnol, fodd bynnag, ni wnaeth hyn effeithio ar ofal cyffredinol Mrs X, nac achosi anghyfiawnder iddi.
Roedd safon y cyfathrebu rhwng staff y Bwrdd Iechyd a Mrs X yn is naâr safon ddisgwyliedig. Fodd bynnag, yn dilyn y digwyddiad, datblygodd y Bwrdd Iechyd daflen wybodaeth i gleifion ochr yn ochr â chyfathrebu ar lafar. Roedd hyn yn enghraifft o arfer da a ddylai atal rhywbeth tebyg rhag digwydd yn y dyfodol.