Cwynodd Mr L am y gofal aâr driniaeth a gafodd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (ây Bwrdd Iechydâ) ar Ă´l iddo fynd iâr Adran Achosion Brys ar gyngor ei optegydd.
Cwyn 1
Cwynodd Mr L fod y Bwrdd Iechyd wedi methu, rhwng mis Ionawr a mis Medi 2018, canfod yn brydlon ac yn briodol bod ganddo stenosis y rhydweli carotid (y pibellau gwaed yn y gwddf wediâu rhwystro, gan gyfyngu ar lif y gwaed i ganol yr ymennydd, y wyneb a’r pen), ac wedi methu ymchwilio iâr mater aâi drin. Canfu’r Ombwdsmon bod y Bwrdd Iechyd wedi methu cyfleoedd i ystyried y posibilrwydd o stenosis y rhydweli carotid neu i ystyried y gallai Mr L fod wedi cael strĂ´c gwahanfa (âwatershedâ)(mae hyn yn digwydd pan mae amhariad ar gyflenwad y gwaed i ran oâr corff mewn 2 brif system pibellau gwaed ar yr un pryd).
O ganlyniad, roedd y Bwrdd Iechyd wedi methu cynnal proses ddelweddu rhydweli garotid ym mis Ionawr a mis Mawrth 2018. Roedd yr Ombwdsmon o’r farn bod y cyfleoedd coll hyn gyfystyr a methiannau mewn gwasanaeth aâu bod wedi peri anghyfiawnder i Mr L oherwydd ei fod wedi parhau i gael symptomau gwanychol. Cadarnhaodd yr Ombwdsmon gĹľyn Mr L.
Cwyn 2
Roedd gan Mr L bryder arall, sef bod y Bwrdd Iechyd wedi methu rhoi gofal amserol iddo ar Ă´l canfod y stenosis ym mis Medi a hyd at ei lawdriniaeth ym mis Tachwedd 2018. Canfuâr Ombwdsmon bod y Bwrdd Iechyd wedi oedi cyn trin stenosis y rhydweli carotid a syndrom isgemia ociwlar Mr L (sef difrod i’r llygad a cholli golwg oherwydd gostyngiad yn llif y gwaed) er gwaethaf y ffaith iddo ddioddef trawiadau isgemig byrhoedlog (âTIAâ, sef amhariad dros dro ar gyflenwad y gwaed i’r ymennydd) yn ystod ac ar Ă´l y broses ddelweddu.
Nododd yr Ombwdsmon fethiannau tebyg mewn achos blaenorol yn erbyn y Bwrdd Iechyd yr oedd wedi ymchwilio iddo pan ganfuwyd diffygion o ran asesiad niwrolegol at ddibenion gwneud diagnosis o TIA. Ers yr ymchwiliad hwnnw, cyhoeddwyd 2 adroddiad (1 ohonynt yn allanol) a oedd yn hynod feirniadol o ofal a thriniaeth fasgwlaidd y Bwrdd Iechyd. Roeddynt yn cynnwys argymhellion sylweddol ar gyfer gwelliannau yn y mwyafrif o feysydd.
Maeâr Ombwdsmon oâr farn bod methiannau difrifol wedi digwydd yng nghyswllt y gĹľyn hon, gan gynnwys methiant llwyr i ddilyn y Canllaw gwreiddiol a Pholisiâr Bwrdd Iechyd ei hun. Nawr mae Mr L wedi colli ei olwg yn barhaol a bydd angen iddo gael triniaeth gydol oes i geisio rheoli’r boen, y llid aâr pwysau cynyddol syân cael ei achosi gan y difrod iâw lygad. Mae hyn gyfystyr ag anghyfiawnder parhaus a sylweddol. Cadarnhaodd yr Ombwdsmon gĹľyn Mr L.