Cwynodd Mrs X am y ffordd y deliodd y Bwrdd Iechyd ââi chĹľyn. Cwynodd hefyd na chafodd ei thad (âMr Yâ) ei roi ar ward briodol ar Ă´l iddo gael ei dderbyn iâr ysbyty ac na chafodd ei anghenion dementia eu hystyried yn iawn gan y Bwrdd Iechyd ar Ă´l ei dderbyn iâr ysbyty. Yn drydydd, cwynodd Mrs X fod safon y cyfathrebu a dderbyniodd gan y Bwrdd Iechyd yn anfoddhaol.
Cafodd cwyn Mrs Z am y ffordd y deliodd y Bwrdd Iechyd ââi chĹľyn ei derbyn yn rhannol. Casglodd yr ymchwiliad fod gwall gan y Bwrdd Iechyd wedi arwain at oedi cyn ymateb i gĹľyn Mrs X. Casglodd yr ymchwiliad hefyd fod ymateb y Bwrdd Iechyd yn anfoddhaol ac yn brin o sylwedd.
O ran cwyn Mrs X na chafodd Mr Y ei roi ar ward briodol ar Ă´l ei dderbyn iâr ysbyty ac na chafodd ei anghenion dementia eu hystyried yn briodol gan y Bwrdd Iechyd, casglodd yr Ombwdsmon fod y Bwrdd Iechyd wedi methu ag asesu anghenion dementia Mr Y ar Ă´l ei dderbyn iâr ysbyty ond ei fod, i ddechrau, wedi cael ei roi ar ward briodol. Penderfynodd yr ymchwiliad y dylai Mr Y fod wedi cael ei symud i ward yn arbenigo mewn gofal dementia yn ystod ei arhosiad yn yr ysbyty. Roedd methu â gwneud hyn wedi arwain at sawl digwyddiad o grwydro a thrais y byddai ward dementia wedi gallu delioân well â nhw.
Derbyniwyd cwyn Mrs X ynghylch safon y cyfathrebu oherwydd nid oedd addewid i gael sgyrsiau rheolaidd dros y ffĂ´n gyda Mrs X wedi digwydd. Arweiniodd hyn at anghyfiawnder i Mrs X gan effeithio ar ei hymddiriedaeth yn y Bwrdd Iechyd.
Argymhellodd yr Ombwdsmon fod y Bwrdd Iechyd yn ymddiheuroân ysgrifenedig wrth Mrs X a thalu iawndal iddi i gydnabod y methiannau a ddisgrifiwyd yn adroddiad yr Ombwdsmon. Argymhellodd hefyd fod y Bwrdd Iechyd yn adolygu ei weithdrefn ar gyfer asesu anghenion dioddefwyr dementia syân cael eu derbyn iâr ysbyty am gyflyrau iechyd eraill.