Mae cwyn Mrs X yn ymwneud ââr gofal aâr driniaeth a dderbyniodd ei diweddar Ĺľr, Mr X, gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn ystod ei gyfnodau yn Ysbyty Glan Clwyd (âyr Ysbyty Cyntafâ) ac Ysbyty Llandudno (âyr Ail Ysbytyâ) ddechrau 2020. Yn benodol, cwynodd na wnaeth y Bwrdd Iechyd fonitro ei gĹľr yn iawn ar Ă´l iddo dderbyn morffin yn yr Adran Achosion Brys, ei fod wedi methu ag adnabod neu drin rhwymedd parhaus ei gĹľr aâi fod wedi methu â chynnal fflworosgopi bariwm yn brydlon ar ffurf llyncu a fideo. Roedd Mrs X hefyd yn bryderus bod y methiannau yn y gofal aâr driniaeth a dderbyniodd ei gĹľr, gan gynnwys methiant i gydnabod bod ei gyflwr yn gwaethyguân gyffredinol, o bosib wedi achosi, neu wedi cyfrannu at y gwaedu ar yr ymennydd yn hwyrach.
Daeth yr Ombwdsmon iâr casgliad ei fod yn briodol rhoi morffin i Mr X a bod y pwl byr, anymatebol a brofodd yn fuan wedyn (na ellid bod wedi ei ragweld ac a oedd yn ymddangos yn anochel) wedi’i nodi’n gyflym a chymerwyd y camau priodol wedyn i’w drin. Daeth iâr casgliad hefyd, o ystyried na fyddai fflworosgopi bariwm ar ffurf llyncu a fideo yn debygol o fod wedi gwneud unrhyw wahaniaeth sylweddol i reoli problemau llyncu hirdymor Mr X, ac nad oedd hyd yr amser rhwng asesu Mr X ar 2 Chwefror aâr profion yn cael eu trefnu ar gyfer 10 Chwefror yn afresymol. I gloi, canfuâr ymchwiliad fod hanes meddygol Mr X o glefyd y rhydweli yn ffactor rhagdueddu o ran y gwaedu a brofodd yn anffodus. Ni wnaeth y gofal aâr driniaeth a dderbyniodd Mr X yn ystod ei gyfnod yno, achosiâr gwaedu mewn unrhyw ffordd na chyfrannu ato. O ganlyniad, ni chadarnhaodd yr Ombwdsmon y cwynion hyn. Serch hynny, canfuâr Ombwdsmon hefyd na chafwyd unrhyw dystiolaeth o fewn y cofnodion o unrhyw werthusiad i weld os oedd y carthydd a ragnodwyd i Mr X yn ystod ei gyfnod cyntaf yn yr ysbyty yn effeithiol. Dywedodd Mrs X hefyd y buân rhaid iâw gĹľr wacau ei goluddion ar Ă´l iddo gael ei ryddhau oâr Ail Ysbyty. Yng ngoleuniâr ffactorau hyn, daeth yr Ombwdsmon iâr casgliad na chafodd rhwymedd parhaus Mr X ei adnabod aâi drin yn iawn cyn ei ryddhau i fynd adref, a chadarnhawyd y gĹľyn.
Argymhellodd yr Ombwdsmon fod y Bwrdd Iechyd yn ymddiheuro i Mrs X, o fewn 1 mis, ac yn atgoffaâr holl staff perthnasol o bwysigrwydd gwerthuso a dogfennu effeithiolrwydd meddyginiaethau a ragnodwyd (fel carthyddion byrdymor) yn ystod y cyfnod y mae cleifion mewnol yn ei dreulio yn yr ysbyty. Cytunodd y Bwrdd Iechyd i weithreduâr argymhellion.