Cwynodd Ms A, syân byw yn Lloegr, am ofal a thriniaeth Adran Achosion Brys Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (ây Bwrdd Iechydâ) yn Ysbyty Maelor Wrecsam ar 14 Medi 2019. Roedd yn anfodlon gydaâr ffordd yr ymdriniwyd â’i chĹľyn a chadernid yr ymateb a oedd yn ymestyn i’r Gwasanaeth Meddygon Teulu y Tu Allan i Oriau.
Canfu ymchwiliad yr Ombwdsmon y gellid bod wedi rheoli meysydd o ofal Ms A yn well, er enghraifft, ei hasesiad poen. Fodd bynnag, yn seiliedig ar y dystiolaeth, daeth yr Ombwdsmon iâr casgliad, adeg brysbennu Ms A yn yr Adran Achosion Brys, yn seiliedig ar ei chyflwyniadau clinigol, nid oedd unrhyw arwydd i awgrymu bod Ms A mewn perygl o sepsis.
Yn weinyddol, fel y gwnaeth y Bwrdd Iechyd, canfuâr Ombwdsmon fethiannau dogfennu ar ran Nyrs Brysbennuâr Adran Achosion Brys a gyfrannodd at ddiffyg eglurder ynglšn â llwybr gofal Ms A, gan achosi anghyfiawnder i Ms A. I’r graddau cyfyngedig hyn yn unig, cadarnhaodd yr Ombwdsmon yr elfen hon o gĹľyn Ms A.
Mewn perthynas ag ymdrin â chwynion, daeth yr Ombwdsmon iâr casgliad nad oedd y cyfathrebu mor effeithiol ag y dylai fod ac ategwyd hynny gydag oedi gormodol yn ymateb y Bwrdd Iechyd i gĹľyn Ms A heb unrhyw dystiolaeth argyhoeddiadol ar y ffeil gwynion ynglšn â pham y dylai hynny fod yn wir. Wedi dweud hynny, canfuâr Ombwdsmon, yn fras, fod ymateb y Bwrdd Iechyd iâr gĹľyn wedi bod yn gadarn a bod y Bwrdd Iechyd wedi cydnabod meysydd i wella yn ei Wasanaeth Meddygon Teulu y Tu Allan i Oriau wrth ddelio â chleifion yn Lloegr syân cael mynediad at ofal yng Nghymru, ac mae wedi cymryd camau i fynd iâr afael â hynny. Ystyriodd yr Ombwdsmon fod y diffygion wrth ymdrin ââr gĹľyn aâr anghyfleustra a achoswyd i Ms A yn anghyfiawnder. Iâr graddau hynny, cadarnhaodd yr elfen hon o gĹľyn Ms A.
Roedd argymhellion yr Ombwdsmon yn cynnwys ymddiheuriad y Bwrdd Iechyd i Ms A, iawndal o ÂŁ250 am yr anghyfleustra a achoswyd yn sgil y ffordd yr ymdriniwyd ââi chĹľyn, ystyried gweithredu polisi i ymdrin â sefyllfaoedd lle caiff cleifion eu hailgyfeirio o’r adran Achosion Brys iâw wasanaethau gofal sylfaenol ac adolygu ei ddogfennaeth sepsis.