Notice: [ Timber ] get_context is deprecated since Timber version 2.0.0! Use context instead. in /var/www/vhosts/psow.spindogs-dev7.co.uk/dev/vendor/timber/timber/src/Helper.php on line 462
Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty : Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr – PSOW Cymraeg

Report Date

19/11/2021

Subject

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Case Reference Number

202003694

Outcome

Cadarnhawyd yn llawn neu yn rhannol

Cwynodd Mrs A am y gofal a ddarparwyd gan Gyngor Abertawe i’w diweddar fab, Mr B. Yn benodol, cwynodd fod y cynlluniau gofal a gynhyrchwyd gan y Cyngor ar gyfer Mr B rhwng 2017 a 2018 yn annigonol ac heb eu hadolygu’n brydlon ac yn effeithiol a bod trafodaeth annigonol wedi’i chynnal rhwng y Cyngor a Mr B ynglŷn â rhannu gwybodaeth gyda’r teulu. Cymerodd Mr B ei fywyd ei hun ar 22 Mawrth 2018.

Canfu’r ymchwiliad fod y cynlluniau gofal yn bodloni’r safon reoleiddio a ddisgwylir gan y Cyngor a bod yr oedi wrth adolygu cynllun Mr B yn 2018 heb arwain at ganlyniad anffafriol yn y gofal a ddarparwyd. Ni chadarnhawyd yr elfen hon o’r gŵyn. O ran cwyn Mrs A fod trafodaeth annigonol wedi’i chynnal gyda Mr B ynglÅ·n â rhannu gwybodaeth gyda’i deulu, ni chanfu’r ymchwiliad unrhyw dystiolaeth fod trafodaethau digonol wedi digwydd o ran i ba raddau y dymunai i’w deulu fod yn rhan o’r penderfyniadau am ei ofal. Nid oedd polisïau a gweithdrefnau wedi’u hesbonio’n ddigonol, ac er na fyddai mwy o gyfranogiad teuluol wedi newid y canlyniad yn y pen draw i Mr B, roedd yr ansicrwydd a grëwyd yn sgil y methiant hwn yn anghyfiawnder i Mrs A. Cadarnhaodd yr Ombwdsmon yr elfen hon o’r gŵyn.

Argymhellodd yr Ombwdsmon y dylai’r Cyngor ymddiheuro i Mrs A am y methiannau a nodwyd ac i roi iawndal o £250 am yr amser a’r drafferth o ddod â’i chŵyn i’w swyddfa. Argymhellodd hefyd fod y Cyngor yn darparu tystiolaeth ei fod wedi adolygu’r ffordd y mae gwybodaeth sy’n cael ei rhannu gydag aelodau’r teulu yn cael ei thrafod a’i dogfennu, bod y wybodaeth a roddir i gleientiaid a theuluoedd yn cael ei hadolygu, gan sicrhau bod yr holl wybodaeth yn glir ac yn gyfoes, a’i fod wedi adolygu ei bolisïau a’i weithdrefnau o ran rheoli adroddiadau o breswylwyr sydd ar goll o lety â chymorth.