Cwynodd Ms B am y gofal aâr driniaeth a dderbyniodd ei diweddar ferch, Ms C, gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (ây Bwrdd Iechydâ) ar 4 Chwefror 2019. Yn benodol, cwynodd Ms B fod y Bwrdd Iechyd wedi methu â darparu gofal a thriniaeth briodol i Ms C, wedi methu â chynnal profion ac archwiliadau priodol, yn benodol sgan ar yr ymennydd, aâi bod yn amhriodol rhyddhau Ms C i fynd adref oâr Adran Endocrinoleg. Mewn ymateb i dystiolaeth a gasglwyd yn ystod yr ymchwiliad, defnyddiodd yr Ombwdsmon âei bĹľer ymchwilio ei hunâ o dan Adran 4 o Ddeddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2019 i ehanguâr ymchwiliad i ystyried, fel cwyn ychwanegol, a dderbyniodd Ms C ofal a thriniaeth briodol gan Adran Endocrinoleg y Bwrdd Iechyd.
Canfuâr ymchwiliad hefyd fod Ms B wedi derbyn rheolaeth briodol wrth yr Adran Endocrinoleg. O edrych yn Ă´l, er y gallaiâr endocrinolegydd fod wedi ystyried a oedd achos arall i symptomau Ms C, roedd ei gynllun rheoli yn briodol. Yn unol â hynny, ni chadarnhaodd yr Ombwdsmon yr elfen hon o gĹľyn Ms B.
Argymhellodd yr Ombwdsmon y dylaiâr Bwrdd Iechyd ymddiheuro i Ms B a gwneud taliad o ÂŁ750 mewn perthynas ââr methiannau a nodwyd. Argymhellodd hefyd y dylaiâr Bwrdd Iechyd rannuâr adroddiad gydaâr staff clinigol perthnasol a chadarnhau bod yr adroddiad wedi’i ddefnyddio ar gyfer myfyrio beirniadol. I gloi, argymhellodd yr Ombwdsmon y dylaiâr Bwrdd Iechyd atgoffaâr clinigwyr yn ei Adran Endocrinoleg o bwysigrwydd cynnal archwiliadau niwrolegol llawn.