Cwynodd Mrs X fod ei mab bach, Y, heb dderbyn diagnosis a/neu driniaeth priodol a rhesymol wrth Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (ây Bwrdd Iechydâ) rhwng Ionawr a Mawrth 2019. Cwynodd Mrs X hefyd fod y cyfathrebu rhwng aelodauâr teulu a staff y Bwrdd Iechyd yn wael ac na roddodd ystyriaeth i bryderon Mrs X.
Ni chadarnhawyd y gĹľyn fod Y heb dderbyn diagnosis priodol, ar y sail fod cyflwr Y yn anarferol iawn a chafodd ddiagnosis o fewn 2 fis iâw eni. Canfuâr ymchwiliad y dylai Y fod wedi cael ei weld gan feddyg mwy profiadol, ond hyd yn oed pe bai hynny wedi digwydd, efallai na fyddaiâr diagnosis cywir wedi’i wneud, a beth bynnag, byddai dal angen llawdriniaeth ar Y.
Cadarnhaodd yr ymchwiliad gĹľyn Mrs X ynglšn â chyfathrebu, ar y sail bod meddyg teulu Y wedi mynegi pryderon iâr Bwrdd Iechyd, bod staff o fewn y Bwrdd Iechyd wedi ail-atgyfeirio Y, a bod Mrs X wedi mynegi ei phryderon am gyflwr Y droeon. Achosodd hyn anghyfiawnder i Y a Mrs X, na fydd yn gwybod, pe bai Y wediâi weld gan feddyg mwy profiadol y byddai ei gyflwr wediâi drin yn gyflymach. Cadarnhawyd y gĹľyn hon hefyd ar y sail na chafodd Mrs X ei hysbysu am gynlluniau i gludo Y i ysbyty plant nac ar ba sail roedd y trosglwyddiad hwnnwân digwydd (nid fel achos brys) gan ei harwain i greduân ddiangen bod bywyd Y yn y fantol.
Argymhellodd yr Ombwdsmon y dylaiâr Bwrdd Iechyd ymddiheuro i Mrs X, a chadarnhau wrthi yr hyn y mae wedi’i wneud i sicrhau y gweithredir ei bolisi ar adolygu meddygon ymgynghorol sydd ar y wardiauân rheolaidd, a’r hyn y mae wedi’i wneud i roi arweiniad i staff mewn perthynas â dogfennu tystiolaeth, fel ffotograffau, a ddarperir gan rieni, o fewn 3 mis.