Cwynodd Mr B fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (ây Bwrdd Iechydâ) wedi methu â rhoi diagnosis o ganser y coluddyn yn ystod nifer o dderbyniadau brys iâr ysbyty rhwng mis Awst a mis Tachwedd 2019. Teimlaiân arbennig y dylaiâr Ymgynghorydd a oedd yn bennaf gyfrifol am ei driniaeth ar Ă´l ei arhosiad olaf ym mis Tachwedd fod wedi rhoi diagnosis iddoân gynharach, o ystyried canlyniadauâr profion blaenorol a oedd ar gael iddo. Cwynodd Mr B hefyd fod yr Ymgynghorydd yn anghwrtais ac yn ddiystyriol, aâi fod yn meddwl bod Mr B yn dweud celwydd am ei salwch oherwydd problemau iechyd meddwl.
Canfuâr Ombwdsmon y gall diagnosis o ganser y coluddyn fod yn gymhleth ac mai dim ond drwy ddileu achosion neu glefydau eraill y gellir gwneud hyn weithiau. Canfu fod y profion, y sganiau aâr ymgynghoriadau a gynhaliwyd gan y Bwrdd Iechyd yn briodol. Canfuâr Ombwdsmon ei bod yn annheg rhoiâr bai ar un Meddyg Ymgynghorol yn unig am fod nifer o glinigwyr eraill hefyd yn ymwneud â thrin Mr B. Er bod tystiolaeth i ddangos bod yr Ymgynghorydd wedi ystyried atgyfeiriad seiciatrig, nid oedd hyn wedi digwydd ac roedd y cofnodion meddygol yn dangos bod yr Ymgynghorydd yn blaenoriaethu profion i ganfod rheswm corfforol dros symptomau Mr B. Felly ni wnaeth yr Ombwdsmon gadarnhau cwyn Mr B.