Cwynodd Mrs A ar ran ei diweddar Ĺľr, Mr A, am ei driniaeth aâi ofal pan gafodd ei dderbyn iâr ysbyty gyda diffyg anadl. Dywedodd Mrs A fod y Bwrdd Iechyd wedi methu gofyn am gydsyniad gwybodus cyn rhoi ffurflen na cheisier dadebru cardio-anadlol (ây Ffurflen DNACPRâ) â cafodd cofnod o benderfyniad gan staff meddygol i beidio â cheisio dadebru claf pe bai ei galon neu ei anadlu stopio) ei roi ar waith, darparu lefelau priodol o ocsigen ychwanegol, ardystio achos cywir marwolaeth, a dychwelyd eiddo Mr A iâw deulu.
Canfuâr Ombwdsmon, er bod penderfyniad DNACPR yn glinigol briodol, fod tystiolaeth iâr gwrthwyneb a chadw cofnodion gwael ynghylch y penderfyniad yn golygu nad oedd modd dweud a oedd Mr A aâi deulu wedi cymryd rhan yn y broses gwneud penderfyniadau yn unol ââr canllawiau perthnasol. Nid oedd cofnodion nyrsio na thystiolaeth o unrhyw fonitro ar arwyddion hanfodol Mr A i sicrhau Mrs A ei fod yn derbyn lefelau priodol o ocsigen ychwanegol. O ganlyniad i sut roedd yn ymddangos yn glinigol, gweithredodd y Bwrdd Iechyd yn briodol wrth ardystio achos marwolaeth Mr A fel COVID-19. Fodd bynnag, methodd â dychwelyd eiddo Mr A iâw deulu yn unol ââi bolisi, a chofnodi bod eiddo Mr A wedi cael ei waredu, gan achosi cyfathrebu gwael am gyfnod hir ar Ă´l iddo farw. Roedd y methiannau a nodwyd yn achosi ansicrwydd diangen iâr teulu ynghylch pa mor briodol oedd gofal a thrallod ychwanegol Mr A. Yn unol â hynny, cadarnhawyd rhai agweddau ar y gĹľyn.
Argymhellodd yr Ombwdsmon y dylaiâr Bwrdd Iechyd ymddiheuro i Mrs A a thalu iawndal ariannol o ÂŁ750 iddi i gydnabod effaith y methiannau arni. Dylaiâr Bwrdd Iechyd hefyd rannu canfyddiadauâr ymchwiliad â staff perthnasol er mwyn sicrhau bod gwersi’n cael eu dysgu yn sgil y gĹľyn.