Cwynodd Mrs X i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (ây Bwrdd Iechydâ) am y gofal aâr driniaeth a roddwyd iâw mam yn dilyn strĂ´c. Nodwyd llawer o faterion, o ran urddas, cyfathrebu a gofal sylfaenol a waethygwyd oherwydd bod llai o gyfleoedd i ymweliad oherwydd cyfyngiadau Covid aâi mam yn symud ward bum gwaith.
Roedd ymchwiliad y Bwrdd Iechyd yn cynnwys adolygiad o’r cofnodion meddygol a thrafodaethau â staff allweddol a oedd yn ymwneud â gofal mam Mrs X. Cwynodd Mrs X iâr Ombwdsmon ei bod yn anfodlon ag ymateb y Bwrdd Iechyd iâw chwyn. Teimlai fod yr ymchwiliad wedi canfod methiannau ac wedi gwneud yn fach o’r gofal gwael a dderbyniwyd. Roedd Mrs X eisiau gweld gwelliannau mewn gofal, ymwybyddiaeth o agwedd a gwell sgiliau cyfathrebu a hyfforddiant. Nododd Mrs X ei barn ar faterion nad oedd yn teimlo bod y Bwrdd Iechyd wedi mynd iâr afael â hwy’n ddigonol.
Yn dilyn trafodaeth gydaâr Ombwdsmon, cytunodd y Bwrdd Iechyd y byddai, o fewn 20 diwrnod gwaith i benderfyniad yr Ombwdsmon, yn rhoi ymateb ysgrifenedig pellach i Mrs X ar y materion a godwyd, gan gynnwys tystiolaeth ei fod wedi cwblhau pwyntiau oâr cynllun gweithredu a amlinellwyd yn yr Adroddiad i’r Ymchwiliad.