Cwynodd Mrs G am yr oedi cyn cael diagnosis a rhoi triniaeth iâw mam-yng-nghyfraith, Mrs H, ar gyfer canser yr ofarĂŻau rhwng Hydref 2019 a Medi 2020.
Er bod peth oedi wedi bod (er enghraifft cyn i Mrs H gael ei gweld ar Ă´l ei chyfeirio gan ei meddyg teulu, a chyn iâr MDT ystyried ei hachos), nid oedd yr un oâr ymchwiliadau a wnaed cyn sgan MRI yn Ebrill 2020 wedi rhoi rheswm i glinigwyr amau bod gan Mrs H ganser na thyfiant ar yr ofari. Roedd y camau a gymrodd y Bwrdd Iechyd yn dilyn canlyniad y sgan MRI yn briodol ac amserol er y dylid bod wedi rhoi gwybod i Mrs H o amheuon y clinigwyr pan gyfeiriodd y Gastroenterolegydd Ymgynghorol Mrs H i gael sgan uwchsain oâi phelfis. Fodd bynnag, pan welodd y Gynaecolegydd Ymgynghorol Mrs H ar 19eg Mehefin, dylid bod wedi trefnu sgan CT brys aâi chyfeirio ar frys at yr MDT Gynaecolegol. Nid oedd y cynllun, sef âaros i weldâ am 4 mis wedyn, yn unol â chanllawiau Coleg Brenhinol yr Obstetryddion a Gynaecolegwyr, er nad oedd wediâi ddylanwadu gan gamgymeriad mewn llythyr yn cyfeirioân anghywir at risg Mrs H o falaenedd gyda sgĂ´r canser yr ofarĂŻau. Roedd yr oedi rhwng 19eg Mehefin (pan welwyd Mrs H gan y Gynaecolegydd Ymgynghorol) aâr 17eg Awst (pryd y buâr tĂŽm MDT Gynaecolegol yn ei thrafod) yn afresymol, a byddai wedi achosi trallod ac ansicrwydd sylweddol i Mrs H. Penderfynodd felly dderbyn cwyn Mrs G. Fodd bynnag, er y gallaiâr llawdriniaeth o ganlyniad fod wedi bod ychydig yn llai dwys, ni fyddai wedi effeithioân sylweddol ar ganlyniad Mrs H.
Gwnaed argymhellion bod y Bwrdd Iechyd yn ymddiheuro wrth Mrs G am y methiannau a bod yr adroddiad yn cael ei ddefnyddio fel ymarfer dysgu gan glinigwyr.