Cwynodd Mrs A fod y Gastroenterolegydd Ymgynghorol (ây Gastroenterolegyddâ) wedi methu â diagnosio ei cherrig bustl yn 2017 a gwrthododd ei diagnosis dilynol o âLaryngopharyeneal Refluxâ (âLPRâ – Ă´l-lif cynnwys y stumog i fyny iâr bibell fwyd aâr holl ffordd iâr gwddf a/neuâr blwch llais). Cwynodd hefyd ei bod wedi cael gofal gwael yn y Clinig Mynediad Cyflym yn Ysbyty Glan Clwyd (âyr Ysbytyâ) ar 26 Ebrill 2019. Yn olaf, cwynodd Mrs A nad oedd y modd yr ymdriniodd y Bwrdd Iechyd ââi chĹľyn yn ddigonol.
Canfu ymchwiliad yr Ombwdsmon nad oedd symptomau clinigol Mrs A yn arwydd o gerrig bustl pan gafodd ei derbyn iâr Ysbyty yn 2017. Canfuâr ymchwiliad rai diffygion cyfathrebu gan y Gastroenterolegydd o ran diagnosis dilynol Mrs A o LPR, ond nododd fod y gamddealltwriaeth wedi codi oherwydd fod Mrs A yn ceisio gofal GIG a gofal preifat. Cafodd yr elfen hon o gĹľyn Mrs A ei chadarnhau. O ran y gofal yn y Clinig Mynediad Cyflym, roedd yr Ombwdsmon yn fodlon fod yr Ymgynghorydd a oedd yn adolygu Mrs A wedi darparu gofal rhesymol a phriodol i ddiystyru emboledd ysgyfeiniol. Ni chafodd yr elfen hon o gĹľyn Mrs A ei chadarnhau.
O ran delio â chwynion, canfuâr Ombwdsmon fod oedi gormodol wrth ymateb i gĹľyn Mrs A a bod methiant y Bwrdd Iechyd i nodi meysydd lle gellid dysgu gwersi yn effeithio ar gadernid ei ymateb i gwynion. Oherwydd y methiannau hyn, bu Mrs A yn gohebu am gyfnod hir a hynnyân achosi anghyfiawnder iddi. Cytunodd y Bwrdd Iechyd i weithredu argymhellion yr Ombwdsmon a oedd yn cynnwys ymddiheuriad ysgrifenedig a thalu ÂŁ250 i Mrs A am yr amser aâr drafferth yn ogystal â gwellaâr prosesau ar gyfer ymchwilio i LPR aâi drin a gwaith amlddisgyblaethol agosach rhwng y timau Clust, Trwyn a Gwddf a Gastroenteroleg.