Cwynodd Mr C am ofal a thriniaeth ei wraig Mrs C, a fu farw yn drist iawn ar 16 Hydref 2020. Holodd Mr C a oedd y cymorth i Mrs C aâi theulu, aâr cyfathrebu â nhw, yn briodol yn ystod arhosiad Mrs C fel claf mewnol. Holodd hefyd a oedd yn rhesymol ac yn briodol iâr Bwrdd Iechyd gynnal gastrosgopi (âOGDâ – Dwodenosgopi Oesoffago-Gastro) ac a oedd y driniaeth honno wedi cyrraedd safon briodol. Yn olaf, gofynnodd a oedd cynllunio gofal, gan gynnwys trafodaethau ynghylch cytundeb Na cheisier dadebru cardio-anadlol (âDNACPRâ) ar gyfer Mrs C, yn rhesymol ac yn briodol.
Canfuâr ymchwiliad y gellid bod wedi gwneud mwy i gynorthwyo Mrs C i gyfathrebu ââi theulu, i gynnig y cyfle iddi gael cymorth gan ei theulu yn ystod sgyrsiau anodd ac i drafod ei dymuniadau DNACPR gydaâi theulu. Hefyd, roedd dogfennau anghyflawn yn golygu nad oedd yn glir pam y dirywiodd Mrs C. Felly, cafodd yr agweddau hyn ar y gĹľyn eu cadarnhau. Fodd bynnag, canfuâr ymchwiliad ei bod wedi bod yn rhesymol cynnal OGD a bod hyn yn cyrraedd safon briodol, felly ni chafodd yr elfen hon ei chadarnhau.
Cytunodd y Bwrdd Iechyd ar argymhellion yr Ombwdsmon i ymddiheuro i Mr C aâr teulu, i gyflwyno dull o gadarnhau bod opsiynau cleifion i gyfathrebu â theulu a ffrindiau wedi cael eu trafod a bod cymorth wedi cael ei gynnig, i atgoffa clinigwyr syân trin y dylid cynnig y cyfle i gleifion gael cymorth gan deulu neu ffrindiau yn ystod sgyrsiau anodd ac i ychwanegu awgrym ar y ffurflen berthnasol ar gyfer clinigwyr i gadarnhau eu bod wedi gwirio unrhyw ddymuniadau sydd wediâu mynegiân gynharach, pan fydd y claf wedi colli galluedd. Cytunodd y Bwrdd Iechyd hefyd i gynnal archwiliad o sampl o gofnodion ar ward yr Uned Therapi Dwys (ITU) i gadarnhau a yw arsylwadauân cael eu cofnodiân briodol.